Toglo gwelededd dewislen symudol

Bydd Siôn Corn yn dychwelyd i Abertawe eleni ar gyfer ei orymdaith draddodiadol sy'n nodi dechrau cyfnod yr ŵyl.

Bydd Siôn Corn yn dychwelyd i Abertawe eleni ar gyfer ei orymdaith draddodiadol sy'n nodi dechrau cyfnod yr ŵyl.

Santa

Cynhelir yr orymdaith AM DDIM yng nghanol y ddinas, a drefnir gan Gyngor Abertawe, nos Sul 17 Tachwedd - pum wythnos cyn y diwrnod mawr.

Bydd yr orymdaith yn dechrau ar Victoria Road am 5pm, cyn iddi deithio drwy ganol y ddinas i Ffordd y Brenin. Wrth i'r orymdaith ymdeithio drwy ganol y ddinas, caiff torfeydd eu rhyfeddu gan strafagansa o olygfeydd disglair a synau cyffrous.

Bydd cerbydau sioe enfawr goleuedig yn goleuo'r strydoedd, gan greu caleidosgop o liw wrth iddynt lithro heibio. Bydd perfformwyr egnïol yn llenwi'r llwybr â chyffro tra bydd bandiau gorymdeithio'n creu naws yr ŵyl wrth iddynt chwarae alawon Nadoligaidd bywiog.

Bydd plant a theuluoedd wrth eu bodd yn gweld eu hoff gymeriadau ffilm ac o straeon tylwyth teg ar hyd y ffordd, a fydd yn eu cyfarch drwy godi llaw a gwenu arnynt. Bydd grwpiau cymunedol lleol yn arddangos eu creadigrwydd a'u doniau gyda gwisgoedd lliwgar, actau Nadoligaidd a pherfformiadau a ddaw â gwir ysbryd yr ŵyl yn Abertawe i'r digwyddiad.

Nodwedd newydd eleni fydd car llusg syfrdanol wedi'i gerfio'n gyfan gwbl o iâ, a gaiff ei ddatgelu ar ddiwrnod yr orymdaith. Bydd y brif nodwedd drawiadol hon yn cynnig cyfle i ymwelwyr gamu i mewn i gael tynnu eu llun, gan droi'r foment yn brofiad gwirioneddol fythgofiadwy i deuluoedd - ciplun perffaith i'w drysori.

Uchafbwynt y noson fydd Siôn Corn ei hun a fydd yn cyrraedd i gynnau goleuadau Nadolig y ddinas, gan nodi dechrau swyddogol tymor yr ŵyl.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, Robert Francis-Davies,

"Mae'r Nadolig yn un o adegau pwysicaf y flwyddyn i ganol y ddinas, ac mae Gorymdaith y Nadolig yn ffordd berffaith i deuluoedd ddechrau cyfri'r dyddiau tan y diwrnod mawr.

"Mae'r orymdaith yn ddigwyddiad na ddylid ei golli ac eleni rydym yn disgwyl iddo fod yr un mor fawr a thrawiadol ag erioed, gydag ambell syrpréis ar ben hynny.

"Rydym yn falch o gynnal y digwyddiad am ddim anhygoel hwn i bobl Abertawe ar adeg mor bwysig i'n manwerthwyr a'n busnesau lletygarwch. Nid gor-ddweud yw dweud y bydd canol y ddinas dan ei sang gyda degau ar filoedd o ymwelwyr, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd yno'n gynnar i fwynhau'r profiad llawn.

"Mae Gorymdaith y Nadolig bob amser yn un o uchafbwyntiau calendr yr ŵyl yn y ddinas. Eleni rydym am greu awyrgylch carnifal Nadolig go iawn, yn llawn golau, cerddoriaeth a dawnsio. Mae hi wedi bod yn flwyddyn heriol i gynifer o bobl, felly rydym wrth ein bodd o allu cyflwyno'r dathliad arbennig hwn i chi unwaith eto."

Dywedodd y Cyng. Francis-Davies fod grwpiau a sefydliadau cymunedol bob amser yn rhan bwysig ac allweddol o'r orymdaith ac mae Tîm Digwyddiadau'r Cyngor eisoes mewn cysylltiad â llawer ohonynt i drafod eu cyfranogiad yng ngorymdaith eleni.

I gael rhagor o fanylion, ewch i www.croesobaeabertawe.com

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 29 Hydref 2024