Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwirfoddolwyr ac artistiaid yn adrodd straeon Abertawe

Diolch i'n holl wirfoddolwyr celf cymunedol sydd wedi cynhyrchu gwaith sydd bellach yn cael ei arddangos ar hysbysfyrddau yn Y Storfa sy'n cael ei datblygu.

y Storfa Art

y Storfa Art

Roedd y grwpiau a gymerodd ran yn cynnwys Llyfrgelloedd Abertawe a Chymorth Ceiswyr Lloches Abertawe yn ogystal â defnyddwyr gwasanaethau'r cyngor ar gyfer Dysgu Gydol Oes ac oedolion ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol neu anabledd dysgu.
Diolch hefyd i'r artist Natalie Hemingway o dde Cymru sydd wedi'u helpu - ac i gontractwyr Y Storfa, Kier, sydd wedi ariannu'r prosiect celf. 
Mae'r gwaith celf wedi'i ysbrydoli gan dreftadaeth, dynoliaeth ac amrywiaeth canol dinas Abertawe. 
Mae'n rhan o brosiect Eich Storfa, Eich Stori sy'n adrodd straeon yr adeilad - hen adeilad BHS - a'r ardal gyfagos. 
Caiff prosiect Eich Storfa, Eich Stori ei reoli gan dîm gwasanaethau diwylliannol y cyngor gyda chyllid gan brif gontractwyr Y Storfa, Kier, a chyda mewnbwn gan dimau eraill y cyngor a grwpiau cymunedol. 
Caiff Y Storfa ei datblygu gan y cyngor - a disgwylir iddi agor fel hwb gwasanaethau cymunedol, gan gynnwys y llyfrgell ganolog, eleni. 
Mae arianwyr trawsnewidiad yr adeilad yn cynnwys rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Rhagor o wybodaeth: www.abertawe.gov.uk/hwbcymunedol
 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Mawrth 2025