Lansio ymgyrch newydd i gefnogi busnesau yng nghanol y ddinas
Mae ymgyrch newydd wedi'i lansio heddiw i gefnogi canol dinas Abertawe drwy annog mwy o bobl i ymweld â'i siopau, ei fwytai, ei dafarndai, ei ddarparwyr gweithgareddau a busnesau eraill.
Gyda chefnogaeth masnachwyr canol y ddinas, mae'r ymgyrch #JoioCanolEichDinas yn cael ei harwain gan Gyngor Abertawe.
Bydd masnachwyr, siopwyr a gweithwyr wrth wraidd yr ymgyrch, a bydd pyst, lluniau a fideos yn cael eu postio'n rheolaidd ar dudalennau Facebook ac Instagram y cyngor er mwyn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o'r hyn y mae canol y ddinas yn ei gynnig.
Mae ystadegau diweddar yn dangos bod gan canol y ddinas gannoedd o fusnesau, o fanwerthwyr a busnesau lletygarwch i leoliadau adloniant a darparwyr gwasanaethau proffesiynol.
Mae'n golygu, ar gyfer y rhan fwyaf o feysydd parcio a reolir gan y cyngor yng nghanol y ddinas, ni fyddwch yn talu mwy na £5 am ddiwrnod llawn - a byddwch yn talu £1 yr awr yn unig am hyd at bum awr.
Meddai'r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae canol dinas Abertawe'n hynod bwysig. Mae'n chwarae rôl hanfodol wrth helpu i roi hwb i'r economi leol ac mae'n gartref i gannoedd o fusnesau sy'n cyflogi pobl leol.
"Po fwyaf o ymweliadau y mae'r busnesau hyn yn eu cael, y gorau yw'r siawns o ddiogelu swyddi pobl leol a denu mwy o fuddsoddiad, busnesau a swyddi i ganol y ddinas yn y dyfodol.
"Fel llawer o ganol dinasoedd a threfi eraill ar draws y DU, mae arferion siopa newidiol pobl wedi effeithio ar ganol dinas Abertawe, gyda mwy a mwy o bobl bellach yn siopa ar-lein, ond mae gan ganol y ddinas gymaint i'w gynnig.
"Yn ogystal â'r farchnad dan do arobryn, mae gan ganol y ddinas siopau cenedlaethol mawr, digonedd o siopau annibynnol, caffis a bariau a gynhelir yn lleol, bwytai mawr, darparwyr hamdden a gweithgareddau, lleoliadau diwylliannol, lleoliadau cerddoriaeth fyw, sinemâu a gwasanaethau hanfodol a phroffesiynol. Mae pob un ohonynt yn darparu profiad cymdeithasol, wyneb yn wyneb na allwch ei gael drwy siopa ar-lein.
"Byddwn yn rhoi sylw i'r busnesau gwych hyn a'u staff lleol fel rhan o'n hymgyrch #JoioCanolEichDinas, gan hefyd roi sylw i ddigwyddiadau a gweithgareddau yng nghanol y ddinas ar gyfer y teulu cyfan.
"Byddem yn annog pobl leol i gefnogi'r ymgyrch, drwy ddangos eu cefnogaeth a darganfod yr holl bethau sydd ar gael yng nghanol y ddinas."
Mae Louise Luporini yn rhedeg caffi'r Kardomah yng nghanol y ddinas gyda'i gŵr, Marcus.
Meddai, "Mae angen rhagor o ymwelwyr ar fusnesau yng nghanol y ddinas, gan gynnwys ein busnes ni, felly rwy'n croesawu'r ymgyrch hon yn fawr.
"Mae cymuned fusnes fywiog yng nghanol dinas Abertawe ac mae popeth o fewn pellter cerdded - o brynu ffrwythau a llysiau a nwyddau groser eraill i fynd am goffi neu fwynhau pryd o fwyd a noson mas.
"Mae llawer o bobl leol yn dod yma ac maent yn mwynhau dod i'r dref am ei fod yn brofiad cymdeithasol.
"Rydym hefyd yn gyffrous am yr holl waith ailddatblygu sy'n digwydd yng nghanol y ddinas. Mae'n gyfnod cyffrous iawn."
Meddai Christos Stylianou, perchennog Derricks Records ar Stryd Rhydychen, "Mae'r ymgyrch yn syniad gwych oherwydd bydd yn amlygu ochr gadarnhaol canol y ddinas.
"Mae llawer i'w weld, i'w wneud ac i ymweld ag ef yng nghanol y ddinas, felly mae'n bwysig bod pobl leol yn ein cefnogi ac yn dod i weld yr hyn sydd ar gael.
"Mae pob canol tref yn profi heriau tebyg i Abertawe, ond rydyn ni'n gwneud yn dda iawn yma i gadw canol y ddinas i fynd."
Mae gwaith adfywio gwerth £1bn yng nghanol y ddinas hefyd yn mynd rhagddo i helpu i gefnogi busnesau canol y ddinas a denu mwy o ymwelwyr yno.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gael llawer mwy o bobl i fyw, gweithio, dysgu a mwynhau yng nghanol y ddinas.
"Er mwyn mynd i'r afael â heriau fel siopa ar-lein, mae'r gwelliannau hyn yn allweddol os ydym am gefnogi busnesau gwych canol ein dinas drwy ddenu mwy o ymwelwyr a gwariant yno ac annog y sector preifat i fuddsoddi.
"Mae Arena Abertawe a'r parc arfordirol newydd wedi bod ar agor ers dros flwyddyn bellach, mae'r gwaith adeiladu yn parhau ar y datblygiad swyddfa newydd ar safle hen glwb nos Oceana, ac mae'r gwaith o drawsnewid adeilad hanesyddol Theatr y Palace wedi hen ddechrau, ond nid dyna ddiwedd y gwaith.
"Bydd gerddi Sgwâr y Castell yn cael eu hailwampio cyn bo hir, bydd hen adeilad BHS ar Stryd Rhydychen yn dod yn hwb cymunedol ac mae'r arbenigwyr adfywio, Urban Splash, yn barod i drawsnewid safleoedd gan gynnwys y Ganolfan Ddinesig ac ardal hen Ganolfan Siopa Dewi Sant."