Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiad meddiannu llwyddiannus i entrepreneuriaid ifanc yn Sgwâr y Castell

Bydd entrepreneuriaid ifanc o 44 ysgol gynradd yn mynd ati i feddiannu gerddi Sgwâr y Castell ddydd Iau wrth iddynt agor stondinau yng nghanol y ddinas.

young entrepreneur 1

Rhwng 9.30am a 2.30pm bydd y plant yn gwerthu pob math o nwyddau, o lysiau a lemonêd cartref i eitemau wedi'u hwchgylchu a chynnyrch crefft.

Mae mwy o ysgolion nag erioed wedi ymuno â Her Menter Ysgolion Cynradd Abertawe 2022, sy'n lansio'r ymgyrch i feddiannu Sgwâr y Castell am y tro cyntaf ers y pandemig.

Mae'r farchnad arbennig yn rhan o ymgyrch barhaus i ysbrydoli disgyblion i feddwl yn ddychmygus ac yn uchelgeisiol fel rhan o'r cwricwlwm ysgol newydd i Gymru.

Mae'r digwyddiad yn cael ei agor gan Arglwydd Faer Abertawe, y Cynghorydd Mike Day, cefnogwr hirsefydlog y fenter.

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Mae'n wych bod Her Menter Ysgolion Cynradd Abertawe yn ôl ar ôl dwy flynedd i ffwrdd oherwydd y pandemig.

"Rwyf wedi ymweld â'r digwyddiad o'r blaen ac mae brwdfrydedd, arloesedd a chyffro'r plant yn dangos bod entrepreneuriaeth yn dechrau'n ifanc yn Abertawe.

Un o'r ysgolion sy'n cymryd rhan yw Ysgol Gynradd Craigfelen ac mae'r pennaeth Alison Williams wedi bod yn ymwneud yn helaeth â threfnu'r farchnad.

Dywedodd Mrs Williams fod yr ysgol wedi bod yn datblygu sgiliau entrepreneuraidd yn ei disgyblion ers nifer o flynyddoedd bellach gan fod staff yn teimlo'n angerddol y dylai addysg fod yn ysgogol, yn hwyl ac yn rhywbeth sy'n paratoi disgyblion ar gyfer y byd y byddant yn tyfu i fyny ynddo.

Ychwanegodd Mrs Williams, "Mae'r digwyddiad yn mynd yn fwy ac yn well bob blwyddyn ac mae disgyblion o'r holl ysgolion wedi cynnig syniadau gwych a chreadigol felly byddwn yn gwahodd unrhyw un sydd yng nghanol y ddinas ddydd Iau i alw heibio, cael cip ar y stondinau a phrynu bargen neu ddwy."

Bydd rownd derfynol hefyd, a lywyddir gan Kevin Johns yn Neuadd Brangwyn ar 14 Gorffennaf, lle bydd pob disgybl sydd wedi cymryd rhan yn y fenter yn cael cydnabyddiaeth am ei gyflawniadau.

 

 

 

Close Dewis iaith