Toglo gwelededd dewislen symudol

Ystadegau rhyddid gwybodaeth

Manylion nifer y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth (FOI) a dderbyniwyd gennym.

Rydym yn ymgymryd â'r camau canlynol i reoli ceisiadau rhyddid gwybodaeth:

  1. Derbynnir cais rhyddid gwybodaeth
  2. Cofnodir y cais rhyddid gwybodaeth a gosodir dyddiad cau penodol (yn unol â'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth)
  3. Trosglwyddir y cais rhyddid gwybodaeth i'r swyddog rhyddid gwybodaeth perthnasol er mwyn llunio'r ymateb
  4. Bydd y swyddog rhyddid gwybodaeth yn ymateb i'r cais rhyddid gwybodaeth, gan gynnwys yr is-adran berthnasol er mwyn cau'r cais rhyddid gwybodaeth.

Adnoddau llywodraethu gwybodaeth

Gweithredir trefn llywodraethu gwybodaeth fel model gwasgaredig yng Nghyngor Abertawe ac nid oes unrhyw swyddi penodol (yn hytrach na chyfrifoldebau a rhwydweithiau a rennir) na chyllideb i ymdrin â cheisiadau rhyddid gwybodaeth, ac eithrio swydd statudol y Swyddog Diogelu Data ar fand cyflog £51,649 - £55,919.

Mae gan bob adran swyddog rhyddid gwybodaeth dynodedig sy'n gyfrifol am gasglu'r data y mae ei angen i ymateb i gais rhyddid gwybodaeth. Mae'r cyfrifoldebau hyn yn ychwanegol i'w cyfrifoldebau o ddydd i ddydd.

Nifer y ceisiadau ac adolygiadau

Ceisiadau rhyddid gwybodaeth a dderbyniwyd
 2023/242022/232021/222020/212019/20
Nifer y ceisiadau1,3461,2321,1369831,195
Nifer y ceisiadau a atebwyd o fewn y terfyn amser*1,113966772618844
Nifer y ceisiadau a atebwyd o fewn 20-40 niwrnod200146214195231
Nifer y ceisiadau a atebwyd ar ôl 40 niwrnod13226396103
Nifer y ceisiadau y codwyd tâl amdanynt*00000
Nifer y ceisiadau nas atebwyd2098877416
Nifer yr adolygiadau2544453038

* yn unol â gofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000