Adolygiad o Ystadegau Cydraddoldeb
Adolygiad o ystadegau ar gyfer Abertawe o ran nodweddion poblogaeth mewn perthynas â chydraddoldeb.
Yn 2023, cynhaliom ein hail adolygiad o'r ystadegau cyhoeddedig sydd ar gael ynghylch nodweddion y boblogaeth mewn perthynas â chydraddoldeb; er mwyn deall amrywiaeth poblogaeth Abertawe, sut y mae wedi newid a beth allai ddigwydd yn y dyfodol. Mae'r ddogfen Adolygiad Ystadegau Cydraddoldeb (PDF) [1MB] yn edrych ar gyfres o ddangosyddion cydraddoldeb allweddol ar gyfer Abertawe, gan gyflwyno'r ystadegau diweddaraf sydd ar gael a darparu rhywfaint o sylwadau a dadansoddiad o'r hyn y mae'r data yn ei ddangos.
Mae'r Adolygiad hwn yn gallu cynnwys ystadegau a gwybodaeth wedi'u diweddaru o Gyfrifiad 2021, gan gynnwys data lleol ar rai o nodweddion y boblogaeth am y tro cyntaf.
Mae'r nodweddion canlynol a restrir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn cael eu hystyried:
- Oedran
- Anabledd
- Ailbennu rhywedd
- Priodas a phartneriaeth sifil
- Beichiogrwydd a mamolaeth
- Hil
- Crefydd neu gred
- Rhyw
- Cyfeiriadedd rhywiol.
Mae'r ddogfen Adolygiad yn cynnwys tabl cryno cyffredinol sy'n dangos y dangosyddion poblogaeth allweddol ar gyfer pob un, gyda'r wybodaeth ganlynol wedi'i chynnwys mewn penodau ar wahân ar gyfer pob nodwedd:
- Amlinelliad o'r ffynonellau data perthnasol sydd ar ynghylch y nodwedd
- Crynodeb o'r ystadegau allweddol sydd ar gael ynghylch Abertawe a chymariaethau cenedlaethol
- Unrhyw amrywiadau lleol yn Abertawe, er enghraifft, trwy gyfrwng data'r Cyfrifiad
- Awgrym o newid dros amser (o'r ffynonellau data a ddefnyddir)
- Tueddiadau posibl yn y dyfodol, os gellir eu nodi.
Sylwer: diweddarwyd rhannau o'r ddogfen (1. Oed; 8. Rhyw) ymhellach ym mis Chwefror 2024 i gynnwys ystadegau poblogaeth ar gyfer canol 2022, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ar ddiwedd 2023.
Mae crynodeb (PDF) [477KB] byr sy'n tynnu sylw at ganfyddiadau allweddol yr Adolygiad diweddaraf hefyd ar gael (diweddarwyd Chwefror 2024), ynghyd â fersiynau blaenorol o'r adolygiad.
Drwy ganolbwyntio ar y nodweddion gwarchodedig a ddisgrifir yn y Ddeddf Cydraddoldeb, mae'r Adolygiad hefyd yn llywio ac yn cefnogi Cynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor: Cynllun cydraddoldeb strategol - Abertawe
Os hoffech chi unrhyw wybodaeth ystadegol ychwanegol am nodweddion poblogaeth Abertawe, neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau eraill am yr ystadegau hyn, cysylltwch â ni.