Ystadegau ar myfyrwyr yn Abertawe
Nifer y myfyrwyr sydd wedi'u cofrestru yn sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach Abertawe.
Mae crynodeb ar gael sy'n dangos nifer y myfyrwyr amser llawn a rhan amser ym mhob un o ddarparwyr addysg uwch (AU) ac addysg bellach (AB) Abertawe. Mae'r data'n berthnasol i flwyddyn academaidd 2022-23.
Daw'r data AU o Gofnod Myfyrwyr a Chofnod Amgen Myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (AYAU). Caiff ei gyhoeddi'n flynyddol gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (AYAU) yn dilyn cyflwyno data gan ddarparwyr AU i AYAU.
Mae'r data AB yn cynnwys gwybodaeth am ddysgu ôl-16 a gasglwyd trwy Gofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (CDGOC) Llywodraeth Cymru. Mae'r data'n cynnwys darpariaeth mewn sefydliadau Addysg Bellach (AB), darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith (DSW) a darparwyr Dysgu Oedolion, ond nid yw'n cynnwys cofrestriadau mewn sefydliadau Addysg Uwch a'r chweched dosbarth mewn ysgolion.
Cyhoeddwyd y data hwn gan AYAU a Llywodraeth Cymru yn ystod mis Chwefror ac Awst 2024. Cynhwysir rhagor o wybodaeth am y data yn y ffeil crynodeb.