Toglo gwelededd dewislen symudol

Zygo Media yn atgyfnerthu bri technolegol a chreadigol byd-eang Abertawe

Mae cwmni sydd wrth wraidd meithrin cynulleidfaoedd ar draws YouTube a chyfryngau cymdeithasol ym maes gemau digidol yn helpu i arddangos uchelgeisiau technolegol Abertawe i gynulleidfa fyd-eang.

zygo logo

Mae Zygo Media o Abertawe eisoes yn adnabyddus ym myd gemau digidol am gefnogi enwau mawr fel TimTheTatman i gyflwyno cynnwys ar raddfa fawr. Mae'r cwmni bellach yn cyflwyno'r profiad penigamp hwnnw ym maes cynnwys gemau digidol i fyd busnes.

Aeth Jack Sargeant AS, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, a Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, i leoliad y cwmni ar y Stryd Fawr yn Abertawe i gael cip ar y gwaith hwn.

Meddai Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant:

"Mae'n wych cysylltu â Zygo Media eto a chlywed cynlluniau'r cwmni i ehangu. Aeth y cwmni i'r gynhadledd datblygwyr gemau digidol yn San Francisco gyda ni'n gynharach eleni fel rhan o ddirprwyaeth Cymru Greadigol a oedd yno i arddangos doniau o Gymru a dangos y cymorth sydd ar gael i fuddsoddwyr posib.

"Mae gemau digidol yn sector blaenoriaeth i ni. Rhagwelir y bydd y farchnad hon yn tyfu i fwy na $200bn erbyn 2025 - ac mae potensial anferth i fanteisio ar y twf hwnnw yma yng Nghymru a chynnig cyfleoedd cyflogaeth o safon uchel i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol."

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe:

"Mae'n wych gweld bod Zygo Media yn ffynnu yn Abertawe. Dyma enghraifft wych o sut gall creadigrwydd a sgiliau digidol yn Abertawe gael effaith fyd-eang.

"Mae uchelgais Zygo Media i feithrin doniau lleol a gweithio gyda diwydiannau creadigol ein dinas mewn ffyrdd sy'n denu diddordeb cwmnïau o'r radd flaenaf yn dangos potensial sector creadigol Abertawe."

Wrth i'r cyfryngau digidol ddatblygu, mae llawer o'r brandiau a'r busnesau newydd mwyaf uchelgeisiol yn ceisio meithrin eu cynulleidfaoedd eu hunain ar-lein ac yn dibynnu ar arbenigedd partneriaid fel Zygo Media i'w helpu i wneud hyn.

Mae'n golygu bod Zygo Media eisoes yn adnabyddus yn y sector creu gemau digidol am ei waith wrth helpu rhai o'r cynhyrchwyr mwyaf fel TimTheTatman, StoneMountain64, DrLupo ac eraill i ysgogi mwy na 9bn o edrychiadau ar draws YouTube, TikTok, X ac Instagram.

Yn ddiweddar, mae'r cwmni wedi meithrin partneriaeth â'r cwmni cyfalaf menter byd-eang Andreessen Horowitz (a16z) i ddarparu gwasanaethau creadigol, a dosbarthu ei gynnwys ar draws YouTube, LinkedIn, X ac Instagram ar gyfer ei raglen cwblhau gemau'n gyflym, yn ogystal ag ehangu ei wasanaethau i gwmnïau portffolio eraill.

Meddai Stephen Ellis, Prif Swyddog Gweithredol Zygo Media:

"Mae partneriaeth ag un o'r cwmnïau cyfalaf menter uchaf ei barch yn y byd yn glod anferth ac mae'n gyfle i ni gyflwyno gwaith a chyfleoedd o'r radd flaenaf i Abertawe. 

"Ein nod yw meithrin timau cynnwys o'r radd flaenaf sy'n galluogi cynhyrchwyr a brandiau i gynyddu graddfa eu gweithrediadau cynnwys.

"Ein hobsesiwn yw creu cynnwys gwych yn ogystal ag ysgogi dosbarthu organig a meithrin cynulleidfaoedd i'n cleientiaid."

Mae'n destun cyffro i Zygo barhau i fuddsoddi mewn doniau creadigol yn Abertawe. Mae'n gweithio gyda cholegau a phrifysgolion lleol ac mae hefyd wedi denu gweithwyr creadigol proffesiynol o bob cwr o Gymru a'r DU i weithio yn ei swyddfa yn Abertawe.

Mae'r gweithwyr creadigol hyn yn cael cyfle i ddangos eu doniau technegol a chreadigol ochr yn ochr â chleientiaid byd-eang, gan helpu i feithrin economi greadigol leol gref.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 17 Gorffenaf 2025