Cofrestru'n dechrau ar gyfer 10k Bae Abertawe Admiral 2022
Gwahoddir rhedwyr i gofrestru ar gyfer ras 10K Bae Abertawe Admiral 2022.
Mae Cyngor Abertawe'n trefnu digwyddiad eleni ar gyfer ddydd Sul 18 Medi. Mae cynnig pris cofrestru cynnar ar gael tan 31 Ionawr.
Roedd digwyddiad y llynedd yn nodi'r 40fed tro i'r ras boblogaidd hon sydd bob amser yn cynnig cwrs arfordirol gwastad a hynod olygfaol gael ei chynnal.
Mae'r digwyddiad wedi ennill gwobrau'n rheolaidd ac mae'r cyngor am iddo barhau fel digwyddiad o safon, gan ddenu rhedwyr o bob oedran a gallu.
Sefydlodd Cyngor Abertawe'r ras ym 1981 ac maent wedi parhau i'w threfnu ers hynny - gan ei chynnwys yn rhaglen ddigwyddiadau flynyddol y ddinas.
Yr haf hwn fydd y 16eg achlysur hefyd i gwmni Admiral noddi'r digwyddiad, sydd yn ogystal â'r 10k yn cynnig rasys hwyl iau 1K a 3K, ynghyd â ras 10k i bobl mewn cadair olwyn a ras masgotiaid.
Meddai Aelod y Cabinet Robert Francis-Davies, "Mae ras 10k Bae Abertawe Admiral yn ddigwyddiad nodedig yn y calendr rhedeg ac mae'n denu cyfranogwyr o bob cwr o'r DU.
"Mae'n nodwedd boblogaidd iawn o galendr digwyddiadau blynyddol Abertawe; mae'n wych ar gyfer athletwyr ar lefel elît, pobl sy'n codi arian ar gyfer elusennau a'r rheini sy'n ceisio curo'u hamser gorau neu drechu'u nodau ffitrwydd.
"Mae cefndir anhygoel Bae Abertawe a'r cwrs gwastad yn golygu ei fod yn ddigwyddiad o'r radd flaenaf. "Roedd ras arbennig y llynedd i ddathlu'r 40fed ras yn llwyddiant enfawr - ac rydym yn hyderus y bydd digwyddiad 2022 yn llwyddiant hefyd.
"Rydym yn rhagweld bydd y galw am leoedd yn uchel unwaith eto eleni. Byddem felly'n annog unrhyw un sydd â diddordeb i gofrestru cyn gynted â phosib er mwyn osgoi cael ei siomi oherwydd unwaith y bydd y lleoedd ar gyfer y ras wedi'u llenwi, ni fydd rhagor ar gael!"
Meddai Rhian Langham, Pennaeth Gwasanaethau Pobl Admiral, "Rydym wrth ein boddau ein bod yn parhau i noddi ras 10k Bae Abertawe Admiral a'r rasys hwyl am y 16fed blwyddyn.
"Mae cefnogi digwyddiadau yn ein cymuned leol yn rhan fawr o ddiwylliant Admiral felly mae'n wych bod yn rhan o ddigwyddiad fel hwn, yn enwedig ar ôl blwyddyn anodd.
"Hoffwn ddymuno pob lwc i'r holl redwyr."
Bydd Tîm Digwyddiadau'r cyngor yn parhau i fonitro sefyllfa'r pandemig. Cynhelir ras 10k Bae Abertawe Admiral dim ond os yw'n dilyn holl reoliadau a chanllawiau perthnasol Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Athletau'r DU.
Caiff cynlluniau eu hadolygu wrth i unrhyw ganllawiau newydd gael eu cyhoeddi a gall hyn gynnwys newidiadau a mesurau ychwanegol i sicrhau bod digwyddiad 2022 yn ddiogel i bawb a fydd yn cymryd rhan, gan gynnwys y gymuned leol ehangach.
Roedd tua 4,000 o redwyr wedi cymryd rhan yn y ras y llynedd, gan redeg rhwng San Helen a'r Mwmbwls. Dyma'r ras 10k orau yng Nghymru yn ôl Gwobrau Rhedeg 2019.
I gadw'ch lle ar linell gychwyn ras 2022 ac i fanteisio ar y cynnig cynnar, ewch i www.swanseabay10k.com/cy.