Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfle i gofrestru ar gyfer 10k Bae Abertawe Admiral yn dod i ben yn fuan

Mae rhedwyr yn cael eu hannog i beidio ag oedi wrth gofrestru ar gyfer 10k Bae Abertawe Admiral gan fod y cyfle i wneud hynny'n dod i ben ddydd Iau yma, 31 Awst.

10k 2022

Swansea Bay 10k, 2022

Mae miloedd eisoes wedi cofrestru ar gyfer y ras ffordd hynod boblogaidd a drefnir gan Gyngor Abertawe. Gall eraill gofrestru yma.

Bydd mwy na 3,000 o redwyr o bob gallu yn cymryd rhan yn y digwyddiad a gynhelir ar hyd llwybr glan môr ddydd Sul 17 Medi, gyda thorfeydd mawr yn eu hannog a'u cymeradwyo.

Yn ogystal â'r 10k, bydd rasys 1k a 3k i redwyr iau, ras cadair olwyn 10k a ras 100m i fasgotiaid,

Mae'r trefnwyr wedi croesawu cwmni dŵr mwnol naturiol Princes Gate unwaith eto fel partner swyddogol y digwyddiad.  Bydd yr holl boteli dŵr a ddarperir gan Princes Gate yn rhai ailgylchadwy sydd wedi'u gwneud o ddeunydd y mae 100% ohono wedi'i ailgylchu. Darperir biniau ar gyfer y poteli gwag a fydd wedyn yn cael eu casglu, eu hailgylchu a'u troi'n boteli newydd fel rhan o gyflenwad 'dolen gaeedig'.

Cerbydlu cronfa ceir trydan y cyngor fydd y cerbydau arweiniol ar gyfer y ras. 

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Dymunaf bob lwc i'r holl redwyr a byddwn yn annog unrhyw un sydd am gymryd rhan i gofrestru cyn y dyddiad cau ar 31 Awst.

Llun: 10k Bae Abertawe Admiral y llynedd.

 

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 29 Awst 2023