Toglo gwelededd dewislen symudol

Fideo newydd ei ryddhau'n dangos ymweliad y Brenin ag Abertawe ym 1969

Dyma fideo sydd newydd gael ei ryddhau o'r Brenin Siarl III yn ymweld ag Abertawe ym 1969 wrth i'r genedl baratoi ar gyfer ei goroniad ar y penwythnos.

King Charles in Swansea 1969

King Charles in Swansea 1969

Ymwelodd Ei Fawrhydi ag Abertawe ddwywaith y flwyddyn honno ar ôl iddo gael ei arwisgo'n Dywysog Cymru - unwaith ym mis Gorffennaf i gyhoeddi bwriad y Frenhines i ddatgan Abertawe'n ddinas.

Ymwelodd eto ag Abertawe yn 2019 fel rhan o ddathliadau i nodi ei 50 mlwyddiant fel dinas.

Maent ymysg sawl ymweliad y mae'r Brenin Siarl III wedi'i wneud ag Abertawe dros y blynyddoedd.

Cynhelir coroni'r Brenin Siarl III a'r Frenhines Gydweddog yn Abaty Westminster yn Llundain ddydd Sadwrn (6 Mai).

Meddai'r Cyng. Mike Day, Arglwydd Faer Abertawe, "Fel Arglwydd Faer, ar ran pobl Abertawe, rwyf wedi ysgrifennu at Balas Buckingham i gynnig llongyfarchiadau i'r Brenin Siarl a'r Frenhines Gydweddog.

"Bydd dydd Sadwrn yn ddigwyddiad pwysig - y Coroniad cyntaf i'w gynnal yn ystod bywyd llawer o bobl - ac fel gwlad, y DU yw'r orau yn y byd o ran digwyddiadau o'r math hwn.

"Mae'r fideo hwn yn dangos un o ymweliadau niferus y Brenin ag Abertawe ac rydym yn diolch iddo am ei wasanaeth yn ystod ei 54 o flynyddoedd fel Tywysog Cymru."

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Ar achlysuron fel hyn rydym yn cydnabod y bydd cymunedau am ddod at ei gilydd, a dyna pam rydym wedi hepgor y ffioedd cau ffyrdd arferol ar gyfer partïon stryd. Bydd dros 20 o bartïon stryd a dathliadau ar draws y ddinas yn elwa o hyn ddydd Sadwrn.

"Bydd y cyngor hefyd yn goleuo Neuadd y Ddinas yn borffor nos Sul i gydnabod y gyngerdd Goleuo'r Genedl sy'n cael ei llwyfannu yng Nghastell Windsor. 

​"Mae'r rhain ymysg sawl ffordd o nodi'r Coroni ac maent yn rhoi cyfle i bobl leol ymuno â'r dathliadau.

​Mae Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg wedi trefnu bod arddangosfa ar-lein ar gael sy'n adrodd hanes sut mae cyhoeddiadau a choroniadau wedi cael eu dathlu'n lleol dros y blynyddoedd. 

​Mae'r arddangosfa yn www.abertawe.gov.uk/archifaucoroniadau yn cynnwys gwybodaeth am sut caiff brenhines neu frenin newydd ei gyhoeddi.

​Bydd Oriel Gelf Glynn Vivian, y Llyfrgell Ganolog a llyfrgelloedd yng Ngorseinon, Llansamlet a Threforys hefyd ar agor ar ddiwrnod y coroni (6 Mai) ar gyfer digwyddiadau crefft ar thema frenhinol.

​Bydd y digwyddiadau hyn yn dilyn gweithgareddau eraill ar thema'r Coroni a gynhaliwyd mewn llyfrgelloedd eraill yn Abertawe'r wythnos hon.