Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfri'r dyddiau tan i derfyn 20mya Llywodraeth Cymru gael ei gyflwyno

Mae'r cyfnod pan gyflwynir terfyn 20mya Llywodraeth Cymru ar draws y wlad yn nesáu.

View of Swansea

Disgwylir i ddeddf Llywodraeth Cymru ddod i rym ar 17 Medi a bydd yn golygu y bydd terfynau cyflymder presennol o 30mya yn cael eu lleihau ar strydoedd a ffyrdd ar draws y wlad i 20mya yn y rhan fwyaf o achosion.

Gofynnir i Gyngor Abertawe, ynghyd â'r holl awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, ddechrau cymryd camau yn awr cyn y dyddiad ym mis Medi.

Yn dilyn astudiaethau peilot cyn i'r ddeddf gael ei chyflwyno'r llynedd, roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi cwmpas cyfyngedig iawn i rai cynghorau eithrio nifer bach o ffyrdd 30mya presennol rhag y newidiadau

Mae Cyngor Abertawe'n edrych ar ba ffyrdd yn Abertawe y gall eithriadau posib effeithio arnynt ac maent yn trafod y mater ag aelodau ward cyn cwblhau trefniadau ac ymgymryd ag ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar yr eithriadau arfaethedig.

Unwaith y bydd y rheolau newydd ar waith, cânt eu gorfodi gan yr heddlu a Gan Bwyll. Fel arfer, bydd enillion unrhyw hysbysiadau cosb benodedig neu ddirwyon eraill yn mynd i Lywodraeth Cymru ac nid cynghorau.

Gallwch gael gwybod mwy am reolau 20mya Llywodraeth Cymru yma:https://www.llyw.cymru/cyflwyno-terfynau-cyflymder-20mya-cwestiynau-cyffredin

Gallwch gael gwybod mwy am waith Gan Bwyll yma:GanBwyll.org

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Ebrill 2023