Toglo gwelededd dewislen symudol

Un o rasys gorau'r byd - ras IRONMAN 70.3 Abertawe!

Mae un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf nodedig Abertawe wedi'i enwi fel un o'r rasys gorau yn y byd.

Ironman 70.3 Swansea 2023

Mae digwyddiad IRONMAN 70.3 Abertawe wedi'i gynnal dros y ddau haf diwethaf a disgwylir iddo ddychwelyd yr haf hwn. Mae'r digwyddiad yn cynnwys nofio am 1.2 milltir, beicio am 56 milltir a rhedeg am 13.1 milltir.

Bydd yn dychwelyd ym mis Gorffennaf gyda'i gwrs rhedeg sydd wedi'i enwi fel y trydydd gorau yng nghalendr y byd y digwyddiad, a'r cwrs gorau ar draws Ewrop, y Dwyrain Canol ac Affrica.

Fel rhan o'r ras redeg bydd yr athletwyr yn rhedeg o'r Ardal Forol a thrwy'r marina, ar hyd y prom ac yn ôl ar hyd y prom a rhannau o'r briff ffordd ar hyd glan y môr, ddwywaith.

Boed law neu hindda, mae athletwyr yn mwynhau'r ras oherwydd ei llwybr gwastad a'i golygfeydd godidog ar draws ehangder braf Bae Abertawe.

Cynhelir y digwyddiad gyda chefnogaeth Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru. Mae'n denu miloedd o gystadleuwyr, cefnogwyr a gwylwyr lleol sy'n mwynhau diwrnod o chwaraeon o'r radd flaenaf am ddim.

Amcangyfrifir bod digwyddiad IRONMAN yn denu oddeutu 20,000 o wylwyr i Abertawe. Ochr yn ochr â Chyfres Para Treiathlon y Byd, amcangyfrifir ei fod yn werth mwy na £2m i'r economi leol.

Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth, "Mae'n newyddion gwych i Abertawe a digwyddiad IRONMAN 70.3."

Meddai Rebecca Sutherland, Rheolwr Prosiect digwyddiad IRONMAN y DU ac Iwerddon, "Roedd canlyniadau Abertawe yn ein gwobrau dewis athletwyr blynyddol yn anhygoel ac wedi cael croeso cynnes gan gymuned IRONMAN."

Bydd digwyddiad IRONMAN 70.3 Abertawe, a fydd yn cael ei gynnal ddydd Sul, 14 Gorffennaf eleni, yn dilyn trydydd digwyddiad Cyfres Para Treiathlon y Byd 2024 y ddinas, a gynhelir ddydd Sadwrn 22 Mehefin yn ardal Glannau SA1.

Yn y ddau achos, bydd preswylwyr, busnesau a sefydliadau lleol yn cael rhybudd ymlaen llaw am newidiadau i drefn ffyrdd yn ystod y digwyddiadau, sy'n elfennau allweddol o raglen ddigwyddiadau Joio Bae Abertawe

Llun: Digwyddiad IRONMAN 70.3 Abertawe, 2023Llun: Huw Fairclough, IRONMAN

Close Dewis iaith