Toglo gwelededd dewislen symudol

Myfyrwyr safon uwch yn dathlu canlyniadau arbennig

Mae myfyrwyr safon uwch Abertawe'n dathlu heddiw ar ôl derbyn canlyniadau gwych.

A-levels 2023 Ysgol Bryn Tawe

A-levels 2023 Ysgol Bryn Tawe

Mae'r gyfradd lwyddo gyffredinol (graddau A* i E) o 97.4% yn debyg i 97.5% ar gyfer Cymru gyfan. Mae canlyniadau Abertawe ar gyfer 2023 yn wych, gyda 34.5% yn cyflawni graddau A*-A (34.0% yng Nghymru).  Ar y cyfan, roedd 78.5% o'r graddau yn raddau C neu uwch yn Abertawe.

Roedd bron i 600 o bobl ifanc o'r saith ysgol yn Abertawe sydd â  chweched dosbarth yn aros i gael gwybod sut gwnaethant gyda'u canlyniadau sy'n hanfodol ar gyfer eu dyheadau o fynd ymlaen i'r brifysgol neu i addysg neu hyfforddiant arall.

Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg a Dysgu, "Mae ein holl fyfyrwyr safon uwch yn haeddu llongyfarchiadau enfawr ar gyfer eu cyflawniadau eleni, a hoffwn ddymuno pob lwc iddynt ar gyfer y dyfodol ac rwy'n gobeithio y bydd pob un ohonynt yn edrych yn ôl ar eu hamser yn ein hysgolion yn Abertawe gydag anwyldeb.

"Wrth gwrs ni fyddai eu llwyddiannau wedi bod yn bosib heb waith caled a chefnogaeth ein hysgolion a'n hathrawon, yn ogystal â theuluoedd y myfyrwyr, felly hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant heddiw."

Ar gyfer Cymraeg Iaith Gyntaf, enillodd 44.4% o ymgeiswyr raddau A* ac A, ac enillodd 100% radd C neu uwch.

Close Dewis iaith