Toglo gwelededd dewislen symudol

Myfyrwyr Abertawe'n dathlu llwyddiannau Safon Uwch

Mae myfyrwyr Safon Uwch Abertawe'n dathlu heddiw wedi iddynt dderbyn canlyniadau gwych sy'n uwch na chyfartaleddau Cymru a'r DU.

Bryn Tawe A-levels 2022

Bryn Tawe A-levels 2022

Mae'r gyfradd lwyddo gyffredinol o 98.2% yn uwch na chyfartaledd Cymru, sef 98%. Mae canlyniadau Abertawe ar gyfer 2022 yn wych, gyda 47.2% yn cyflawni graddau A*-A (40.9% yng Nghymru).

Roedd bron 720 o bobl ifanc o ysgolion Abertawe'n aros i glywed am eu canlyniadau.

Meddai Robert Smith, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg a Dysgu, "Mae angen llongyfarch yr holl fyfyrwyr am eu cyflawniadau gan fod arholiadau Safon Uwch yn ddigon anodd ar y gorau, ond maent wedi gweithio'n galed yn sgil y pandemig a'r tarfu a fu, sy'n golygu bod eu canlyniadau hyd yn oed yn fwy rhagorol.

"Hoffwn ddymuno pob lwc i'n myfyrwyr ar gyfer y dyfodol ac rwy'n gobeithio y bydd pob un ohonynt yn edrych yn ôl ar eu hamser yn ein hysgolion yn Abertawe gydag anwyldeb.

"Wrth gwrs ni fyddai eu llwyddiannau wedi bod yn bosib heb waith caled a chefnogaeth ein hysgolion a'n hathrawon, yn ogystal â theuluoedd y myfyrwyr, felly hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant heddiw."

Ar y cyfan, enillodd 47.2 % o ymgeiswyr yn Abertawe radd A* neu A o'i gymharu â 40.9% yng Nghymru gyfan.  Ar y cyfan, roedd 88.8% o raddau yn raddau C neu uwch yn Abertawe o'u cymharu â'r 85.3% yng Nghymru.

Close Dewis iaith