Toglo gwelededd dewislen symudol

ADY - Amserlenni Anghenion Dysgu Ychwanegol

Cafodd deddfwriaeth Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (ALNET) ei chyflwyno ym mis Ionawr 2022 a'i bwriad yw rhoi'r plentyn / person ifanc wrth wraidd y broses, gan ystyried eu barn a'u meddyliau.

Mae'r ddeddfwriaeth wedi golygu newid y system gyfan ac yn sgîl hynny mae amserlenni newydd y mae angen cadw atynt.

Penderfyniad yr ysgol

Penderfyniad coleg / addysg amser llawn

Penderfyniadau ADY Cyngor Abertawe

 

Penderfyniad yr ysgol

NID oes gan blentyn / person ifanc Angen Dysgu Ychwanegol

Hysbysu o fewn 35 niwrnod ysgol i'r dyddiad y codwyd y pryder gyda'r ysgol. Os nad yw hynny'n bosib oherwydd bod angen rhagor o wybodaeth, mae angen hysbysu rhieni / gofalwyr mai dyma'r achos. Gall fod yn ddefnyddiol cynnig cyfle i'r plentyn a'i riant drafod ymhellach. Dylai'r hysbysiad hefyd amlinellu pa gamau y bydd yr ysgol yn eu cymryd yn sgîl ei hystyriaeth i sicrhau bod anghenion y plentyn (nad ydynt yn ADY) yn cael eu diwallu. Gall hyn gynnwys strategaethau addysgu gwahaniaethol yn y dosbarth.

Mae gan blentyn / person ifanc Angen Dysgu Ychwanegol felly mae angen CDU arno

Hysbysu o fewn 35 niwrnod ysgol i'r dyddiad y codwyd y pryder gyda'r ysgol. Os nad yw hynny'n bosib oherwydd bod angen rhagor o wybodaeth, mae angen hysbysu rhieni / gofalwyr mai dyma'r achos. Mae'n bosibl y bydd y DDdY, neu fathau penodol o DDdY, yn cael eu nodi'n gynnar yn y broses a pheth amser cyn i'r CDU gael ei gwblhau. Lle mae hyn yn wir, dylai'r ysgol, os yw'n rhesymol gwneud hynny, ddechrau sicrhau unrhyw DDdY sydd wedi'i nodi ar y cyfle cyntaf, wrth iddi gwblahu'r gwaith o baratoi'r CDU.

Nid yw'r ysgol yn gallu cynnal y CDU felly mae'n ei gyfeirio at yr adran ADY i'w ystyried

Os oes sail i gyfeirio at yr adran ADY, rhaid i ysgolion weithredu hyn o fewn 20 niwrnod ysgol (os nad ynghynt). O bryd i'w gilydd, efallai mai dim ond yn ddiweddarach yn y broses o benderfynu a oes gan y plentyn neu'r person ifanc ADY a pharatoi CDU y bydd y sail dros atgyfeirio'n dod i'r amlwg. Er enghraifft, efallai y bydd yn dod i'r amlwg dim ond unwaith y bydd rhywfaint o gyngor yn cael ei dderbyn gan wasanaeth arbenigol ac unwaith bod yr ysgol yn sylweddoli bod natur ADY y plentyn neu'r person ifanc yn fwy helaeth nag yr oedd wedi'i meddwl, neu efallai na fydd y DDdY yn rhesymol iddi ei sicrhau. Gall ysgol barhau i gyfeirio'r mater at y cyngor. Dylai weithredu'n brydlon i leihau'r oedi wrth i CDU gael ei roi ar waith.


Penderfyniad coleg / addysg amser llawn

NID oes gan berson ifanc Angen Dysgu Ychwanegol

Hysbysu o fewn 35 niwrnod yn ystod y tymor i'r dyddiad y codwyd y pryder gyda'r coleg / SAB. Os nad yw hyn yn bosib oherwydd bod angen rhagor o wybodaeth, mae angen hysbysu'r person ifanc mai dyma'r achos a'r rhiant / gofalwr (os yw'r person ifanc yn cydsynio i rannu gwybodaeth). Mae'n bosib y bydd y DDdY, neu fathau penodol o DDdY, yn cael eu nodi yn gynharach yn y broses a pheth amser cyn i'r CDU gael ei gwblhau. Os felly, dylai coleg / SAB, os yw'n rhesymol, ddechrau sicrhau unrhyw DDdY sydd wedi'i nodi ar y cyfle cyntaf, wrth iddynt gwblhau'r gwaith o baratoi'r CDU.

Young person does have an Additional Learning Need

Hysbysu o fewn 35 niwrnod ysgol i'r dyddiad y codwyd y pryder gyda'r coleg / SAB. Os nad yw hynny'n bosib oherwydd bod angen rhagor o wybodaeth, mae angen hysbysu rhieni / gofalwyr mai dyma'r achos. Mae'n bosibl y bydd y DDdY, neu fathau penodol o DDdY, yn cael eu nodi'n gynnar yn y broses a pheth amser cyn i'r CDU gael ei gwblhau. Lle mae hyn yn wir, dylai'r coleg / SAB, os yw'n rhesymol gwneud hynny, ddechrau sicrhau unrhyw DDdY sydd wedi'i nodi ar y cyfle cyntaf, wrth iddi gwblahu'r gwaith o baratoi'r CDU.

Coleg / SAB yn cyfeirio CDU at yr adran ADY i'w gynnal

Os oes sail i atgyfeirio i'r adran ADY, rhaid i'r coleg / SAB weithredu hyn o fewn 20 niwrnod tymor (os nad ynghynt). O bryd i'w gilydd, efallai mai dim ond yn ddiweddarach yn y broses o benderfynu a oes gan y person ifanc ADY a pharatoi CDU y bydd y sail dros atgyfeirio yn dod i'r amlwg. Er enghraifft, efallai y bydd yn dod i'r amlwg dim ond unwaith y bydd rhywfaint o gyngor yn cael ei dderbyn gan wasanaeth arbenigol ac unwaith y mae'r SAB yn sylweddoli bod natur ADY y person ifanc yn fwy helaeth nag yr oedd wedi'i feddwl, neu efallai na fydd yr DDdY yn rhesymol iddo ei sicrhau. Gall y coleg / SAB barhau i gyfeirio'r mater at y cyngor. Dylai weithredu'n brydlon i leihau'r oedi wrth i CDU gael ei roi ar waith.


Penderfyniadau ADY Cyngor Abertawe

NID oes gan blentyn / person ifanc Anghenion Dysgu Ychwanegol

Hysbysu o fewn 12 wythnos i'r cais gael ei dderbyn. Os nad yw hynny'n bosib oherwydd bod angen rhagor o wybodaeth, mae angen cynghori'r person ifanc a'r rhiant / gofalwr os mai dyma'r achos. Cynnig cyfle i'r person ifanc, rhiant / gofalwr gael trafodaeth bellach. Dylai'r hysbysiad hefyd amlinellu pa gamau y bydd yr awdurdod neu'r ysgol leol yn ymgymryd â nhw yng ngoleuni eu hystyriaeth i sicrhau bod anghenion y person ifanc (nad ydynt yn ADY) yn cael eu diwallu. Gallai hyn gynnwys strategaethau addysgu gwahaniaethol yn y dosbarth.

Mae gan blentyn / berson ifanc Anghenion Dysgu Ychwanegol felly mae angen Cynllun Datblygu Unigol (CDU)

Gwneud penderfyniad a pharatoi CDU a'i rannu o fewn 12 wythnos i'r cais gwreiddiol gael ei dderbyn. Os nad yw hynny'n bosib oherwydd bod angen rhagor o wybodaeth, mae angen cynghori'r person ifanc, y rhiant / gofalwr os ma i dyma'r achos. Mae'n bosibl y bydd y DDdY, neu fathau penodol o DDdY, yn cael eu nodi'n gynnar yn y broses a pheth gwblhau. Os felly, dylai'r awdurdod lleol a'r ysgol, os yw'n rhesymol, ddechrau sicrhau unrhyw DDdY sydd wedi'i nodi ar y cyfle cyntaf, wrth iddynt gwblhau'r gwaith o baratoi'r CDU.

Ailystyried penderfyniad ysgol ar ADY

Rhaid rhoi copi o'r CDU (os oes angen) o fewn 7 wythnos i'r cais gael ei dderbyn. Os nad yw hynny'n bosib oherwydd bod angen rhagor o wybodaeth, mae angen cynghori'r person ifanc, y rhaint / gofalwr os ma i dyma'r achos. Mae'n bosibl y bydd y DDdY, neu fathau penodol o DDdY, yn cael eu nodi'n gynnar yn y broses a phleth amser cyn i'r CDU gael ei gwblhau. Os felly, dylai'r awdurdod lleol a'r ysgol, os yw'n rhesymol, ddechrau sicrhau unrhyw DDdY sydd wedi'i nodi ar y cyfle cyntaf, wrth iddynt gwblhau'r gwaith o baratoi'r CDU.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Mawrth 2023