Toglo gwelededd dewislen symudol

Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe yn Datgelu Gwefan Newydd

Mae Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS) yn falch o gyhoeddi lansiad ei gwefan newydd wedi'i chynllunio i fod yn hyb canolog i addysg oedolion yn yr ardal leol.

Swansea Adult Learning Partnership logo

Swansea Adult Learning Partnership logo

Mae'r wefan hon yn rhestru ac yn cysylltu â'r amrywiaeth mawr o gyfleoedd addysgol sydd ar gael, a ddarparwyd gan gydymdrechion sefydliadau allweddol ym maes addysg oedolion.

Mae'r bartneriaeth hon yn ceisio darparu addysg hygyrch o ansawdd uchel sy'n cyd-fynd ag anghenion a dyheadau'r gymuned, gan gynnwys ffocws ar gyrsiau y gellir eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Fel partneriaeth, rydyn ni'n ymrwymo i ddarparu'r ystod fwyaf amrywiol o brofiadau dysgu i oedolion ledled Abertawe, gyda'r nod o roi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar fyfyrwyr ar gyfer llwyddiant personol a phroffesiynol," meddai Cadeirydd Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe a Phennaeth a Phrif Swyddog Gweithredol Coleg Gŵyr Abertawe, Mark Jones.

"Bydd ein gwefan newydd yn rhoi mynediad i'r cyrsiau sy'n cael eu haddysgu a'r cymorth sydd ar gael ar draws ein holl bartneriaid, ac mae'n dystiolaeth bellach o'n hymrwymiad cadarn i weithio gyda'n gilydd."

"Mae Addysg Oedolion Cymru yn aelod allweddol o ALPS, ac yn falch dros ben o chwarae rhan yn y gwaith o greu gwefan y Bartneriaeth," meddai Beth John, Rheolwr Rhanbarthol Addysg Oedolion Cymru dros Dde-orllewin a Chanolbarth Cymru.

"Bydd y wefan yn 'siop un stop' i bawb yn Abertawe, a bydd yn darparu gwybodaeth am y darparwyr addysgu a'r partneriaid unigol. Bydd dysgwyr yn gallu gweld, yn syth, ehangder y ddarpariaeth addysg oedolion sydd ar gael yn Abertawe - o Lefel Cyn-fynediad i Lefel 6 -  a gobeithio bydd yn ysbrydoli dysgwyr newydd i ymuno a chymryd y cam nesaf ar eu taith ddysgu.

"I'r rhai sydd am ail-gydio mewn addysg, ar ôl cyfnod i ffwrdd o astudiaethau efallai, bydd llawer o wybodaeth, cymorth a chyngor i'w gweld ar dudalennau'r wefan. Mae'r holl ddarparwyr addysgu yn edrych ymlaen at groesawu llu o ddysgwyr newydd trwy ryngweithio ac ymgysylltu â'r wefan."

"Ar y dechrau, mae llywio cynigion ar draws asiantaethau gwahanol yn gallu bod yn rhwystr o ran cael mynediad at gyfleoedd dysgu," meddai Amanda Carr, Cyfarwyddwr Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddodol Abertawe (SCVS).

"Mae'r bartneriaeth wedi gweithio'n galed i ddod â gwybodaeth ynghyd mewn un lle, mewn ffordd sy'n rhoi modd i aelodau'r gymuned chwilio am wybodaeth a chyfleoedd a gweld yn hawdd beth sydd ar gael ar draws yr asiantaethau gwahanol."

"Mae Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes Cyngor Abertawe yn falch o fod yn un o'r aelodau sefydlu o Bartneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe," meddai Alyson Anthony, Aelod o Gabinet Cyngor Abertawe dros Les.

"Mae gwefan ALPS yn adeiladu ar gyflawniadau'r bartneriaeth hynod lwyddiannus hon ac yn darparu un pwynt mynediad ar gyfer yr holl ddarpariaeth dysgu oedolion yn y gymuned. Mae'r bartneriaeth yn parhau i ddathlu ei llwyddiant trwy wyliau dysgu blynyddol sy'n agored i bawb, gan arddangos y cyfoeth o ddarpariaeth sydd ar gael. Mae'r gwyliau hefyd yn dathlu statws Abertawe fel Dinas Dysg.

"Mae amseriad y lansiad yn berffaith gan fod cofrestru ar gyfer ein rhaglen dysgu gydol oes y gwanwyn, sy'n rhad ac am ddim, yn agor dydd Llun 4 a dydd Llun 11 Rhagfyr."

"Mae'n bleser mawr gan Dysgu Cymraeg - Ardal Bae Abertawe (DCABA) fod yn rhan o ddatblygiad y wefan newydd hon, a gwasanaethu cymunedau Abertawe a'r cyffiniau" meddai Iestyn Llwyd, Pennaeth Dysgu DCABA.

"Bydd y platfform yn gallu ysbrydoli'r rhai sydd â diddordeb mewn dysgu Cymraeg i fod yn rhan o gymuned ddysgu fywiog y bartneriaeth trwy eu cyfeirio at amrywiaeth o gyrsiau lleol ac ar-lein ar lefelau gwahanol."

"Mae Prifysgol Abertawe yn ymfalchïo'n fawr yn ein cydweithrediad â Phartneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS), ac rydyn ni wrth ein bodd o gydweithio i gyflwyno'r platfform ar-lein newydd hwn" meddai'r Athro Deborah Youngs, Dirprwy Is-Ganghellor dros Addysg ym Mhrifysgol Abertawe.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd yn haws i oedolion, waeth beth yw eu cefndir, gael mynediad at yr amrywiaeth eang oi gyfleoedd sydd ar gael ar draws y ddinas, gan roi'r sgiliau, yr wybodaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw i gyrraedd eu nod, boed hynny yn fwy o hyder, astudiaeth bellach neu gyflogaeth."

Os hoffech wybod rhagor am y Bartneriaeth neu'r wefan, cysylltwch â'r canlynol:

Cydlynydd Datblygu Cwricwlwm, Samantha Al-Khanchi
E-bost - Samantha.Al-khanchi@adultlearning.wales
Ffôn - 07787 433936

Addysg Oedolion Cymru
Ffôn - 03300580845

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Rhagfyr 2023