Toglo gwelededd dewislen symudol

Cefnogaeth os ydych chi'n meddwl bod gan eich plentyn Anhwylder Sbectrwm Awtistig

Mae arweiniad newydd sy'n manylu ar yr help sydd ar gael i rieni neu ofalwyr sy'n meddwl y gall fod gan eu plentyn neu berson ifanc Anhwylder y Sbectrwm Awtistig bellach ar gael yn Abertawe

Autistic Spectrum Disorder support video still

Ni waeth beth yw oedran eich plentyn, mae cefnogaeth ar gael yn yr ysgol, yn y cartref ac yn y gymuned - ac nid oes angen i'ch plant gael asesiad neu ddiagnosis i gael mynediad ati.

Mae adran newydd wedi'i chreu ar wefan y Cyngor sy'n rhoi manylion cymorth, cwestiynau cyffredin, awgrymiadau da a dolenni i wahanol sefydliadau a all eich arwain.

Mae copi Saesneg ar gael yn: www.swansea.gov.uk/autismsupport a chopi Cymraeg yn: www.abertawe.gov.uk/cymorthawtistiaeth.

I gyd-fynd â hyn mae fideo byr wedi'i gynhyrchu i helpu i ledaenu'r gair i rieni a gofalwyr.