Toglo gwelededd dewislen symudol

Adroddiad Gwybodaeth a Thensiynau Cymunedol

Nid yw hon yn ffurflen / atgyfeiriad diogelu neu 'Prevent'

Mae posibilrwydd y gall tensiynau godi mewn unrhyw gymuned, a all arwain at ryw fath o wrthdaro. Bydd natur y tensiynau'n amrywio o un ardal i'r llall. Felly, mae'n bwysig iawn bod gan y tîm cydlyniant cymunedol a phartneriaid wybodaeth gyfoes am dueddiadau lleol o ran cydlyniant cymunedol, er mwyn gallu nodi mannau lle ceir mwyn gallu nodi mannau lle ceir tensiwn yn aml, ymyrryd yn gynnar ac atal problemau rhag gwaethygu.

Bwriad y ffurflen hon yw casglu gwybodaeth gan staff yr awdurdod lleol a sefydliadau partner a fydd yn cyfrannu at broeses monitro tensiynau'r Heddlu. Rhagwelir y bydd yn helpu i gasglu gwybodaeth ar lefel y gymdogaeth gan ein galluogi wedyn i ymateb yn gadarnhaol gyda chefnogaeth.

Bwriad y ffurflen hon yw rhannu deallustrwydd meddal ac arsylwadau - fel newidiadau mewn teimlad cymunedol, pryderon ymhlith grŵp, digwyddiadau lleol a allai ddylanwadu ar ddeinameg gymunedol, sylwadau cyfryngau cymdeithasol neu ddatblygiadau perthnasol eraill a allai elwa o ymwybyddiaeth a monitro cynnar.

Ni ddefnyddir y ffurflen hon i adnabod unigolion.

Cyfrinachedd a defnyddio gwybodaeth

Caiff yr wybodaeth a ddarperir drwy'r ffurflen hon ei defnyddio i lywio'r brosesymgysylltu â'r gymuned, gwasanaethau cefnogi a phartneriaid lleol.

Ni ddylid defnyddio'r ffurflen hon ar gyfer pryderon sy'n ymwneud ag ymateb i argyfwng, diogelu, rhaglen 'Prevent' neu derfysgaeth.

Os ydycah chi'n credu bod rhywun mewn perygl dybryd o niwed, ffoniwch y gwasanaethau brys ar 999.

Os oes gennych bryder ynghylch diogelu, gwnewch atgyfeiriad drwy broses ddiogelu eich sefydliad.

Os oes gennych bryder ynghylch radicaleiddio neu eithafiaeth, defnyddiwch broses atgyfeirio 'Prevent' eich sefydliad.

Ffurflen Monitro Gwybodaeth a Thensiynau Cymunedol

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i adrodd am eich pryderon.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 06 Tachwedd 2025