Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhybudd tywydd coch - Storm Darragh

Gwybodaeth am newidiadau i wasanaethau'r cyngor a chau lleoliadau ac atyniadau yn ystod cyfnod y rhybudd tywydd coch.

Diogelwch cymunedol ac argyfyngau

Cyngor ar gadw'n ddiogel.

Os oes rhywun mewn perygl dybryd, ffoniwch 999.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

Ymddygiad gwrthgymdeithasol yw pan fydd rhywun neu grwpiau o bobl yn ymddwyn mewn ffordd sy'n achosi aflonyddwch, braw neu ofid i eraill.

Trosedd casineb

Rhoi gwybod am droseddau casineb a sut i gael cefnogaeth os ydych chi, neu rywun rydych yn ei adnabod, yn ddioddefwr troseddau casineb.

Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (GDMACau)

Er mwyn helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol (YG), rydym yn bwriadu cyflwyno cyfres o GDMACau yng nghanol y ddinas. Os bydd yn llwyddiannus, efallai y byddwn yn eu hymestyn i ardaloedd sy'n gyfagos i ganol y ddinas ac ar hyd Woodfield Street yn Nhreforys.

Man storio bagiau yng nghanol y ddinas

Gadewch eich bagiau a'ch nwyddau mewn lle diogel wrth i chi siopa.

Cyngor ac arweiniad ar wrthderfysgaeth

DIFRIFOL yw lefel bygythiad gan derfysgwyr rhyngwladol yn y DU ar hyn o bryd, sy'n golygu bod ymosodiad yn hynod debygol.

Cynllunio brys

Cyngor i'ch helpu i baratoi ar gyfer argyfyngau yn eich cartref a'ch busnes.

Llifogydd a thywydd garw

Gwybodaeth a chyngor am yr hyn i'w wneud pan fydd llifogydd neu rybuddion o dywydd garw.

Gwobr y Faner Borffor

Mae Abertawe wedi ennill Baner Borffor sy'n ceisio codi safonau a gwella ansawdd ein trefi a'n dinasoedd rhwng 5.00pm a 5.00am.

Teledu cylch cyfyng

Mae Cyngor Abertawe'n gweithredu camerâu teledu cylch cyfyng (CCTV) mewnol ac allanol ar draws nifer o leoliadau yn y ddinas.

Gweithred dwyllodrus

Twyll yw cynllun sydd wedi'i greu i'ch twyllo i roi eich arian, eich manylion personol neu eich nwyddau. Mae'n anodd iawn i gael y rhain yn ôl os ydych wedi'u rhoi i dwyllwyr.

Diogelwch ffyrdd

Rydym yn gweithio gydag ysgolion a chymunedau i ddarparu rhaglen helaeth o addysg, hyfforddiant ac ymwybyddiaeth diogelwch ffyrdd i helpu i leihau anafiadau ar y ffyrdd.

Cyrsiau achub bywyd

Mae'r tîm Diogelwch Dwr yn cynnal nifer o gyrsiau Cymhwyster Achub Bywyd y Pwll Cenedlaethol (NPLQ) 8fed Rhifyn Cymdeithas Frenhinol Achub Bywyd i roi'r gofyniad sylfaenol i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am swyddi fel achubwyr bywyd pwll/swyddogion hamdden.

Cysylltiadau brys

Manylion cyswllt os bydd argyfwng yn Ninas a Sir Abertawe a'r cyffuniau.

Cyngor ar ddiogelwch tacsis

Yn gyffredinol, mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn ffordd ddiogel o deithio. Mae'n bwysig sicrhau eich bod yn dewis cerbyd trwyddedig a chymryd rhagofalon synhwyrol.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 22 Mawrth 2024