Pobl ifanc yn trefnu te partis i ymgysylltu â chenedlaethau hŷn
Mae pobl ifanc wedi bod yn chwalu'r rhwystrau cenedliadol yn Abertawe drwy wahodd y genhedlaeth hŷn i gyfres o gyfleoedd cymdeithasu gyda phaned o de, tafell o deisen ac adloniant traddodiadol.
Roedd aelodau Clwb Ieuenctid Gorseinon, sy'n cael ei redeg gan Wasanaeth Ieuenctid Evolve Cyngor Abertawe, eisiau herio canfyddiadau negyddol rhai pobl hŷn am bobl ifanc, ac i'r gwrthwyneb.
Yn ystod prosiect entrepreneuriaeth 8 wythnos gwnaethant feddwl am y syniad o gynnal sesiynau te prynhawn 'Afternoon Teens', a oedd yn cynnwys cynllunio, trefnu a chynnal te partis ar gyfer y gymuned Heneiddio'n Dda.
Mae'r sesiynau bellach wedi cael eu cynnal ym mhump o Hybiau Cymorth Cynnar y Cyngor, ac i ddod â'r sesiynau i ben cafwyd Te Parti Arbennig yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar y penwythnos er mwyn dathlu Wythnos Genedlaethol Pontio'r Cenedlaethau.