Taith ar hyd yr afon yn ffordd wych o wneud ffrindiau newydd
Mae 30 o breswylwyr wedi mwynhau taith ar gwch ar hyd afon Tawe i archwilio hanes a threftadaeth y ddinas wrth wneud ffrindiau newydd hefyd.
Trefnwyd y diwrnod allan gan Dîm Partneriaeth a Chyfranogaeth Cyngor Abertawe, gan weithio gyda Gweithredu dros Bobl Hŷn ac Ymddiriedolaeth Cwch Cymunedol Abertawe.
Ar ôl y daith dywys ar y Copper Jack, cafwyd te a choffi yn The Swigg, gan roi cyfle i'r rheini a ddaeth ar y daith i gymdeithasu wrth hefyd gael gwybodaeth am weithgareddau y gallant gymryd rhan ynddynt.
Meddai Mark Child, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, "Nod y digwyddiadau cynnwys hyn yw mynd i'r afael â theimlo'n ynysig, annog pobl i fod yn rhan o'r gymuned eto mewn ffordd ddiogel a rhoi cyfle i bobl siarad â'r cyngor a'i bartneriaid.
"Roedd ychydig o'r adborth a gawsom yn dweud bod y digwyddiad yn llawn gwybodaeth a'i fod yn gyfle gwych i gwrdd â phobl newydd a meithrin cyfeillgarwch newydd."
Bydd y grŵp yn cwrdd yn The Swigg, Marina Abertawe bob dydd Gwener rhwng 1pm a 3pm, ac mae croeso i bobl newydd.
I gael y diweddaraf am weithgareddau o'r fath, cofrestrwch ar gyfer Cylchlythyr Heneiddio'n Dda y cyngor yn https://www.abertawe.gov.uk/dros50