Mynd am dro wythnosol yn newid bywydau er gwell, dywed cerddwyr
Mae tro wythnosol o amgylch Marina Abertawe gyda phaned a sgwrs ar ôl gorffen yn dod mor boblogaidd mae trefnwyr yn meddwl y bydd mwy na 100 o bobl yn cymryd rhan cyn bo hir.
Mae'n un yn unig o lawer o weithgareddau am ddim neu â chymhorthdal sydd ar gael i bobl hŷn sydd am fynd allan o'r tŷ, bod yn heini a chymdeithasu yn ystod 2023, diolch i dîm partneriaeth a chyfranogiad Cyngor Abertawe.
Maent hefyd yn cynnwys dangosiadau ffilm am bris rhatach, bowlio deg, diwrnodau mas a'r côr Heneiddio'n Dda newydd sbon.
Gall pobl gofrestru i dderbyn cylchlythyr sy'n rhoi diweddariad wythnosol iddynt ar yr holl bethau sy'n digwydd drwy fynd i:https://www.abertawe.gov.uk/ebostheneiddiondda
Dywedodd y rheini sy'n mynd am dro'n rheolaidd ar ddydd Iau, gan ddechrau yn y Swigg ychydig cyn 10.30am, mai dyma yw o uchafbwyntiau eu hwythnos.
Mae'n gyfle i gael ychydig o ymarfer corff a gwneud ffrindiau newydd, ac mae cyfranogwyr yn dweud ei fod wedi helpu i newid eu bywydau er gwell.