Toglo gwelededd dewislen symudol

Sioe Awyr Cymru'n dychwelyd i Fae Abertawe dros y penwythnos

Oes angen cyngor arnoch i fanteisio i'r eithaf ar y digwyddiad mwyaf yng Nghymru lle ceir mynediad am ddim?

Wales Airshow

Wales Airshow

Mae Sioe Awyr Cymru - sy'n para am ddeuddydd ac sy'n cael ei threfnu gan eich cyngor - yn dychwelyd!

Meddai Pennaeth y Gwasanaethau Diwylliannol, Tracey McNulty, "Bydd degau ar filoedd o bobl yn dod i'r sioe nodedig hon - bydd llawer i'w fwynhau.

"Rydym yn diolch i'r rheini a fydd yn gorfod newid eu trefn ddyddiol o bosib oherwydd y newidiadau i'r ffyrdd a fydd ar waith er diogelwch pawb. Rydym hefyd yn diolch i'n noddwyr a'n cefnogwyr."

Bydd y nodweddion ychwanegol eleni'n cynnwys Pentref y Cyn-filwyr, er mwyn anrhydeddu cyn-aelodau'r lluoedd arfog.

Dewch i weld y Red Arrows, os yw'n bosib. Byddant yn hedfan dros Abertawe am 5.15pm nos Sadwrn.

Dros y penwythnos, bydd Typhoon yr Awyrlu Brenhinol hefyd yn dychwelyd ar y ddau ddiwrnod, yn ogystal â hofrennydd Wildcat Black Cats y Llynges Frenhinol.

Ceir ymddangosiadau hefyd gan Team Raven, sy'n arbenigo mewn erobateg, y Vampire o Norwy a Thîm Parasiwt Red Devils byd-enwog y Fyddin - yn ogystal ag awyren ddwbl Fairey Swordfish, hofrennydd Westland Wasp, Rolls-Royce Spitfire (dydd Sul yn unig), Yak50, Tîm Erobateg Starlings, tîm arddangos hofrenyddion Sgwadron Gazelle, hofrennydd Sea King a thîm erobateg Firebirds.

Bydd arddangosiadau ar y ddaear i'r holl deulu, gan gynnwys replicâu o Hurricane a Typhoon, arddangosiadau milwrol, bwyd a diod, adloniant byw, ffair bleser, hen gerbydau milwrol, amgueddfa D-Day symudol, stondinau masnach, y Parth Modurol i'r rhai hynny sy'n dwlu ar geir - ac ardal hwyl newydd i'r teulu.

Bydd efelychwyr hedfan, band Tywysog Cymru, cerbydau ymladd mawr a Phentref y Cyn-filwyr.  

Mae modd cadw lle ymlaen llaw mewn mannau parcio dynodedig o hyd, bydd cyfleusterau parcio a theithio ar gael yn Stiwdios y Bae a safle parcio a theithio Glandŵr y cyngor, a gallwch deithio i'r sioe ar y trên a'r bws.

Mae ap swyddogol Sioe Awyr Cymru'n cynnig mynediad at amserlen swyddogol o arddangosiadau, newyddion byw, bywgraffiadau am awyrennau a mwy. Mae ar gael ar ddyfeisiau Android ac Apple am ffi untro o £1.99; gellir ei lawrlwytho eto am ddim os ydych wedi ei brynu o'r blaen.

Mae trefnwyr a phartneriaid yn cymryd nifer o gamau i leihau effaith amgylcheddol y digwyddiad. Mae'r rhain yn cynnwys mwy o fannau ailgylchu nag erioed o'r blaen a thair gorsaf ail-lenwi dŵr.

Bydd bandiau arddwrn am ddim i ddiogelu plant rhag mynd ar goll ar gael o fannau gwybodaeth y sioe awyr, staff meysydd parcio, cadetiaid a stiwardiaid ar hyd y promenâd, ac o stondinau'r heddlu a'r gwasanaeth tân yn y Senotaff.

Bydd gweithwyr Ambiwlans Sant Ioan ar gael mewn mannau cymorth cyntaf.

Mae'r noddwyr a'r cefnogwyr yn cynnwys Aerodyne, Day's Rental, First Cymru, FRF DS Swansea, FRF Toyota, Great Western Railway, Lidl, Radnor Hills, y Lleng Brydeinig Frenhinol, Trafnidiaeth Cymru, Travel House a Greatest Hits Radio.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Gorffenaf 2024