Toglo gwelededd dewislen symudol

Sioe Awyr Cymru: Mannau gwylio hygyrch ar gael

Mae trefnydd Sioe Awyr Cymru, Cyngor Abertawe, yn gweithio i sicrhau y gall y rheini ag anghenion hygyrchedd fwynhau'r digwyddiad.

Airshow Crowd

Mae swyddogion yn gweithio gyda changen Abertawe o'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn ystod sioe mynediad am ddim eleni ar 1 a 2 Gorffennaf.

Bydd dau fan gwylio hygyrch - yn y Senotaff a'r Ganolfan Ddinesig. Bydd y ddau yn cynnig toiledau i'r anabl, cadeiriau i gymdeithion, golygfeydd o'r arddangosiadau a'r traeth - a bydd cefnogwyr cangen Abertawe o'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yno i ddarparu cymorth a chefnogaeth i deuluoedd.

Mae cynlluniau ar gyfer man gwylio tawel ar lawr cyntaf llyfrgell y Ganolfan Ddinesig.

Meddai llefarydd ar ran cangen Abertawe o'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, "Rydym yn gyffrous iawn i weithio gyda Chyngor Abertawe yn ystod Sioe Awyr Cymru 2023 ac ar gyfer digwyddiadau eraill yn y dyfodol."

Meddai aelod y cabinet, Robert Francis-Davies, "Rydym am i bawb fwynhau'r Sioe Awyr - mae'n uchafbwynt o raglen digwyddiadau blynyddol wych Abertawe."

Bydd ymwelwyr â'r Sioe Awyr yn gallu defnyddio toiledau parhaol i'r anabl gan gynnwys y rheini ym Marina Abertawe, y Ganolfan Ddinesig, Llyn Cychod Parc Singleton, Lido Blackpill, Sgwâr Ystumllwynarth a Knab Rock. Bydd angen allwedd RADAR ar gyfer rhai ohonynt.

Mae safleoedd Changing Places, gyda chyfleusterau toiled hygyrch i bobl nad ydynt yn gallu defnyddio toiledau hygyrch arferol, ar gael yn y Ganolfan Ddinesig, The Secret Beach Bar & Kitchen, Toiledau Cyhoeddus Gorsaf Fysus y Cwadrant (allwedd RADAR), Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Canolfan Hamdden yr LC a Gorsaf Drenau Abertawe.

Yn y sioe, bydd y rhan fwyaf o arlwywyr, masnachwyr ac arddangosfeydd wedi'u lleoli ar hyd neu'n agos at ffordd darmac neu'r prom.

Bydd rampiau a chyrbau wedi'u gostwng ar gael mewn nifer o fannau ar hyd Oystermouth Road i wella hygyrchedd.

Mae Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe yn darparu sgwteri a chadeiriau olwyn pweredig yn ogystal â chadeiriau olwyn arferol i helpu'r rheini â symudedd cyfyngedig i siopa neu ymweld â chyfleusterau eraill yng nghanol y ddinas.

Mae'r cyngor hefyd yn gweithio gyda Fforwm Rhiant-ofalwyr Abertawe ar y Sioe Awyr a digwyddiadau eraill yn ystod y flwyddyn.

Bydd mannau gwylio hygyrch y Sioe Awyr ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.

Rhagor: www.bit.ly/WAaccess

Llun: Holl gyffro Sioe Awyr Cymru o'r gorffennol.

 

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Mehefin 2023