Toglo gwelededd dewislen symudol

Miloedd yn mwynhau penwythnos Sioe Awyr Cymru

Roedd penwythnos Sioe Awyr Cymru'n un gwych gyda channoedd ar filoedd o bobl yn mwynhau digwyddiad awyr agored am ddim mwyaf y wlad.

Airshow 2024

Airshow 2024

Cafodd ymwelwyr o bob rhan o'r DU eu difyrru gan arddangosiadau'r Red Arrows, Typhoon yr Awyrlu Brenhinol ac eraill dros ddeuddydd y sioe awyr.

Roedd torfeydd enfawr wedi mwynhau amrywiaeth eang o arddangosfeydd rhyngweithiol, gweithgareddau ac adloniant byw ar y ddaear yn ogystal â gweld y cyffro yn yr awyr yn y digwyddiad a drefnwyd gan y Cyngor.

Roedd nodweddion newydd yn cynnwys Pentref y Cyn-filwyr i anrhydeddu holl gyn-aelodau'r lluoedd arfog. Dathlodd ymwelwyr y cyfraniadau sylweddol a wnaed i'r DU gan y rheini sy'n gwasanaethu ac sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog.

Roedd y sioe yn nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog Cymru, gyda'r gweithgarwch ar y dydd Sadwrn yn cynnwys seremoni ac adloniant ar lwyfan. Cafodd cân wreiddiol a ysgrifennwyd gan grŵp o gyn-filwyr ei pherfformio'n gyhoeddus am y tro cyntaf yn y digwyddiad.

Talwyd teyrnged gan Aelod y Cabinet, Robert Francis-Davies, i'r ymdrech a wnaed gan staff y Cyngor, y gwasanaethau brys, noddwyr y sioe a phartneriaid eraill y Cyngor a helpodd i wneud y digwyddiad yn un o'r radd flaenaf ar gyfer y ddinas.

Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau o safon yn cael eu cynnal yn Abertawe eleni, gan gynnwys Cyfres Para Treiathlon y Byd Abertawe ar 22 Mehefin, IRONMAN 70.3 Abertawe ar 14 Gorffennaf, a thridiau o gerddoriaeth ym Mharc Singleton o 18 i 20 Gorffennaf. Rhagor o wybodaeth: www.joiobaeabertawe.com   

Roedd noddwyr sioe awyr eleni'n cynnwys Aerodyne, Day's Rental, First Cymru, FRF DS Abertawe, FRF Toyota, Great Western Railway, Greatest Hits Radio, Lidl, Radnor Hills, Y Lleng Brydeinig Frenhinol, Trafnidiaeth Cymru a Travel House.

Disgwylir i Sioe Awyr Cymru'r flwyddyn nesaf gael ei chynnal ar 5 a 6 Gorffennaf.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 07 Gorffenaf 2024