Neuadd Albert yn ailagor yr haf hwn!
Diolch yn fawr i'n ffrindiau yn y cwmni Cymreig LoftCo sy'n paratoi i ailagor Neuadd Albert wych yng nghanol dinas Abertawe.
Mae'r gwaith i drawsnewid y lleoliad hanesyddol yn Cradock Street yn mynd rhagddo - gydag ychydig o gymorth gennym ni - ac rydym yn gyffrous iawn eu bod nhw wedi rhoi caniatâd i ni rannu'r newyddion diweddaraf â chi.
Disgwylir i'r adeilad agor yn swyddogol ganol dydd 14 Mehefin.
Cymerwch gip cyn gynted â phosib wedi hynny!
Bydd yn gyfuniad cyffrous o hanes ac arloesedd gan ailddefnyddio hen adeilad poblogaidd mewn ffordd newydd a modern.
Bydd llawr uchaf y strwythur 160 oed yn cynnwys llety i ymwelwyr mewn arddull newydd a elwir yn 'gwesty fflat'.
Bydd pob ystafell yn cael eu henwi ar ôl person enwog sydd wedi perfformio ar lwyfan Neuadd Albert, gan gynnwys Charles Dickens ac Oscar Wilde.
Bydd ystafelloedd cyfarfod arbennig ac ystafelloedd bwyta preifat sydd wedi cael eu henwi ar ôl y gantores opera enwog Adelina Patti a oedd wedi perfformio yn y lleoliad.
Yn y brif neuadd fydd wyth o fasnachwyr bwyd, gan gynnwys rhai o fasnachwyr poblogaidd Abertawe a rhai sy'n newydd i'r ddinas.
Ar gyfer pob teulu, bydd ardal chwarae i blant ar thema jwngl yn lle gwych i blant bach ei archwilio, gyda theledu i blant ar y sgrîn fawr bob bore.
Ar gyfer ymholiadau, rhenti swyddfeydd, trefnu digwyddiadau neu i gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch enquiries@albert-hall.co.uk
- Cymerwch gip ar wefan y lleoliad - www.albert-hall.co.uk
- Wyddech chi, agorwyd yr adeilad ym 1864 fel lleoliad ar gyfer hyd at 2,500 o bobl. Enwyd y lleoliad yn Neuadd Albert ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach a darparwyd lleoliad ar gyfer amrywiaeth o areithiau, perfformiadau a sioeau. Daeth yn sinema a neuadd bingo cyn cau yn 2007. Roedd LoftCo wedi ei brynu tua phedair blynedd yn ôl. Caiff ei adfywio ar yr un adeg â phrosiectau treftadaeth Abertawe a arweinir gan y Cyngor, sef adeilad Theatr y Palace a rhan o waith Copr yr Hafod-Morfa - sydd bellach yn cael ei feddiannu gan Ddistyllfa Penderyn.