Pyrth bwaog newydd i gysylltu Bae Copr â glan y môr
Mae cysylltiad newydd sy'n cynnwys tri phorth bwaog yn cael ei adeiladu fel rhan o ardal newydd Bae Copr Abertawe.
Bwriedir iddo greu gwell cysylltiadau rhwng canol y ddinas a'r glannau, a bydd y cyswllt yn arwain o safle Arena Abertawe i'r Ardal Forol.
Mae'r pyrth bwaog yn disodli twnnel cul a oedd yno ymlaen llaw.
Mae ymysg nodweddion newydd ardal cam un Bae Copr sy'n werth £135m sy'n cael ei ddatblygu gan Gyngor Abertawe a'i gynghori gan y rheolwr datblygu RivingtonHark.
Yn ogystal ag Arena Abertawe, mae'r ardal hefyd yn cynnwys parc arfordirol 1.1 erw, y bont newydd dros Oystermouth Road, cartrefi newydd, mannau parcio ceir newydd a lleoedd newydd i fusnesau hamdden a lletygarwch.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Bydd y pyrth bwaog yn creu gwell cysylltiadau rhwng canol y ddinas a'r ardal forol a'r glannau, gan wella golwg ac edrychiad yr arena drwy ddisodli'r twnnel gweddol dywyll a arferai fod yno.
"Mae'n un nodwedd o ardal sy'n werth cannoedd o swyddi a £17.1m y flwyddyn i Abertawe.
"Mae'r gwaith i adeiladu Bae Copr yn parhau i wneud cynnydd da bob dydd wrth i ni agosáu at gwblhau cynllun mawr sydd eisoes yn gweithredu fel catalydd am ragor o fuddsoddiad a thwf economaidd."
Disgwylir i'r gwaith i adeiladu cam un Bae Copr - a arweinir gan Buckingham Group Contracting Limited - gael ei gwblhau yn nes ymlaen eleni, gyda'r arena, a gaiff ei rhedeg gan Ambassador Theatre Group (ATG), yn agor ei drysau yn gynnar yn 2022.
Ariennir arena cam un Bae Copr yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe fel rhan o brosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau sydd hefyd yn cynnwys y datblygiad swyddfa newydd a gaiff ei adeiladu cyn bo hir yn 71/72 Ffordd y Brenin.
Ariennir y bont dros Oystermouth Road yn rhannol gan grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.