Toglo gwelededd dewislen symudol

Sêr roc a threatr yn cael eu cyhoeddi ar gyfer yr Arena

Mae Arena Abertawe wedi cyhoeddi Royal Blood a Jersey Boys fel y sioeau diweddaraf y bydd tocynnau ar werth ar eu cyfer cyn bo hir.

Royal Blood

Royal Blood

Ddydd Mawrth 8 Mawrth 2022, y ddeuawd o Brighton, Royal Blood, fydd yr act cyntaf i berfformio yn y lleoliad fel rhan o dymor lansio'r arena.

Hyd yn hyn mae gwerthiannau byd-eang Royal Blood wedi cyrraedd dwy filiwn, maent wedi ennill gwobr BRIT am y Grŵp Gorau ym Mhrydain, dwy wobr NME a gwobr Kerrang!  Enwebwyd eu halbwm gyntaf hefyd ar gyfer gwobr Mercury.

Cadarnheir hefyd y bydd Jersey Boys yn dod i Arena Abertawe - y sioe gyntaf o'r West End i'w chyhoeddi ar gyfer yr atyniad.

Bydd Jersey Boys a fydd yn ymddangos o ddydd Mawrth 29 Tachwedd i ddydd Sadwrn 3 Rhagfyr 2022 yn mynd â chynulleidfaoedd y tu ôl i gerddoriaeth a'r tu mewn i hanes Frankie Valli and The Four Seasons.  Mae'r sioe gerdd wedi ennill 65 o wobrau mawr ac mae dros 27 miliwn o bobl wedi'i gweld ar draws y byd.

Bydd tocynnau ar gyfer Royal Blood a Jersey Boys yn mynd ar werth i'r cyhoedd ddydd Gwener 3 Rhagfyr drwy swansea-arena.co.uk

Mae'r Arena yn un o nodweddion ardal cam un Bae Copr sy'n werth £135 miliwn sy'n cael ei datblygu gan Gyngor Abertawe a'r rheolwr datblygu RivingtonHark sy'n cynghori arni. Disgwylir i'r gwaith i adeiladu cam un Bae Copr - a arweinir gan Buckingham Group Contracting Limited - gael ei gwblhau yn nes ymlaen eleni, gyda'r arena, a gaiff ei rhedeg gan Ambassador Theatre Group (ATG), yn agor ei drysau yn gynnar yn 2022.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae cyhoeddi'r artistiaid rhyngwladol cyntaf a fydd yn perfformio yn Arena Abertawe fel rhan o'i thymor lansio'n garreg milltir bwysig ar gyfer yr atyniad, ac mae'r cyffro'n dechrau cynyddu nawr cyn iddi agor yn gynnar y flwyddyn nesaf."

Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae cyhoeddi'r holl actau sydd eisoes wedi'u cadarnhau ar gyfer Arena Abertawe yn dangos y bydd gan y lleoliad apêl cyffredinol, gyda llawer o'r actau hyn heb berfformio yn Abertawe o'r blaen.

"Bydd yr arena'n adeiladu ar fyd diwylliannol bywiog ac amrywiol presennol Abertawe, gan ei gryfhau ymhellach ar gyfer cynulleidfaoedd y dyfodol."

Meddai Rheolwr Cyffredinol Arena Abertawe, Lisa Mart, "Rydym yn gyffrous iawn i fod yn cyhoeddi rhagor o ddigwyddiadau ar gyfer 2022 - yn enwedig ein hact gyntaf yr edrychir ymlaen yn eiddgar ati. Mae Royal Blood yn wych. Nhw yw'r act berffaith i osod y naws ar gyfer ein blwyddyn agoriadol a phrofi galluoedd y lleoliad. Mae Jersey Boys, ein cynhyrchiad cyntaf o sioe gerdd o'r West End, yn gamp mawr i ni - mae'n un o'r sioeau cerdd teithiol gorau sydd ar gael ac rydym yn sicr y bydd Abertawe'n dwlu arni.

"Mae rhagor o gyhoeddiadau pwysig i orffen ein tymor lansio i ddod."

Yn 2022 hyd yn hyn gall cynulleidfaoedd Arena Abertawe ddisgwyl gweld Alan Carr; John Bishop;  Jurassic Live; Katherine Ryan; Rhod Gilbert; Rob Beckett; Rob Brydon; Kevin Bridges; The Good, The Bad and The Rugby Live; Alice Cooper and The Cult; Diversity; Johannes Radebe; Oti Mabuse; RuPaul's Drag Race UK ac Will Young.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 04 Ionawr 2022