Rhagor o gynnydd ym Mae Copr wrth i seddi'r arena gael eu gosod
Mae seddi'n cael eu gosod yn awr y tu mewn i awditoriwm Arena Abertawe wrth i'r gwaith i adeiladu ardal newydd Bae Copr y ddinas barhau i wneud cynnydd.
Mae lluniau y tu ôl i'r llenni newydd hefyd yn dangos nodweddion eraill yr ardal gwerth £135m sy'n dechrau ymffurfio, gan gynnwys y parc arfordirol 1.1 erw a'r caffi a'r bwyty newydd a gaiff ei redeg gan The Secret Hospitality Group.
Ceir lluniau camera hefyd o lawr awditoriwm yr arena, ynghyd â lluniau o rai o'r nodweddion addurnol a'r nenfydau y tu mewn i adeilad yr arena.
Cyngor Abertawe sy'n datblygu ardal Bae Copr, ac fe'i cynghorir gan y rheolwyr datblygu RivingtonHark. Ambassador Theatre Group (ATG) fydd yn gweithredu'r arena sydd â lle i 3,500 o bobl.
Mae ardal Bae Copr hefyd yn cynnwys cartrefi newydd, lleoedd parcio newydd, y bont newydd dros Oystermouth Road, a rhagor o leoedd ar gyfer busnesau hamdden a lletygarwch.
Bydd y gwaith i adeiladu ardal cam un Bae Copr - a arweinir gan Buckingham Group Contracting Ltd - yn cael ei gwblhau'n hwyrach eleni, a bydd yr arena'n agor ei drysau'n gynnar yn 2022.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae mwyfwy o gynnydd yn cael ei wneud yn ddyddiol ar gam un ardal Bae Copr ac mae'r lluniau diweddaraf hyn yn rhoi blas o rywfaint o'r gwaith sy'n digwydd yn awr.
"Bydd yr arena drawiadol yn cyfuno â'r parc arfordirol, y bwyty newydd a nodweddion eraill Bae Copr i greu ardal fywiog a fydd yn creu cannoedd o swyddi ac a fydd yn werth £17.1m y flwyddyn i economi Abertawe.
"Yn ogystal â dod ag adloniant o'r radd flaenaf a chyfleusterau hamdden newydd i bobl Abertawe, bydd Bae Copr hefyd yn fanteisiol i'r busnesau sydd yng nghanol y ddinas ar hyn o bryd oherwydd y nifer ychwanegol o ymwelwyr a'r gwariant y bydd yn ei sbarduno."
Meddai Keith Powles, Rholwr Technegol ac Adeiladu yn Arena Abertawe, "Mae'r cynnydd a wnaed yn yr Arena yn yr ychydig wythnosau diwethaf wedi bod yn syfrdanol.
"Bydd fformat modiwlaidd anhygoel yr arena'n caniatáu i ni gynnal yr actau teithiol mwyaf rhyfeddol ym myd cerddoriaeth, comedi a'r theatr - rhai na welwyd mo'u tebyg erioed o'r blaen yn y ddinas.
"Rwy'n hynod ddiolchgar a balch o fod yn gweithio ar brosiect o'r maint hwn yn fy nhref enedigol, a chaf fy syfrdanu bob dydd gan yr hyn y bydd yr arena hon yn ei gynnig i artistiaid ac ymwelwyr."
Ariennir arena cam un Bae Copr yn rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe fel rhan o brosiect Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau sydd hefyd yn cynnwys y datblygiad swyddfa newydd a gaiff ei adeiladu cyn bo hir yn 71/72 Ffordd y Brenin.
Ariennir y bont dros Oystermouth Road yn rhannol gan grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.