Toglo gwelededd dewislen symudol

Enwogion yn aros i berfformio yn Abertawe

Bydd rhagor o enwogion yn dod i Abertawe'r flwyddyn nesaf wrth i'r rhestr o berfformwyr enwog a fydd yn dod i arena ein dinas dyfu.

Arena from above

Arena from above

Gallwch fwynhau noson llawn chwerthin a'r annisgwyl nos Sul 15 Mai 2022 wrth i arwyr y byd rygbi, James Haskell a Mike Tindall, ynghyd ag Alex Payne, gyflwyno podlediad rygbi mwyaf poblogaidd y byd - The Good, The Bad and The Rugby - i Abertawe.

Yna gallwch fynd ar daith drwy amser ar 10 Tachwedd 2022 wrth i Will Young berfformio clasuron ei yrfa 20 mlynedd hyd yn hyn, sy'n cynnwys pedwar albwm rhif un, dwy wobr BRIT, 4 sengl rhif un yn y DU a chaneuon poblogaidd fel 'Leave Right Now', 'Evergreen' a 'Jealousy'.

Mae'r ddau ddyddiad newydd hyn yn ychwanegol at lu o enwau mawr y bydoedd comedi a cherddoriaeth sydd eisoes wedi'u trefnu i berfformio yn Arena Abertawe'r flwyddyn nesaf.

Disgwylir i'r brif act gerddorol agoriadol hefyd gael ei gyhoeddi dros y misoedd nesaf.

Mae'r arena, a gaiff ei gweithredu gan Ambassador Theatre Group, yn un nodwedd o ardal newydd cam un Bae Copr gwerth £135m sy'n cael ei datblygu gan Gyngor Abertawe a'i chynghori gan y rheolwyr datblygu RivingtonHark. Mae nodweddion eraill yn cynnwys parc arfordirol 1.1 erw, mannau newydd ar gyfer busnesau lletygarwch a hamdden, lleoedd parcio newydd, cartrefi newydd a'r bont dirnod newydd dros Oystermouth Road.

Bydd y gwaith adeiladu, dan arweiniad Buckingham Group Contracting Ltd, yn cael ei orffen yn ddiweddarach eleni, a bydd yr arena'n agor ei drysau'n gynnar yn 2022.

Mae tocynnau ar gyfer Will Young a'r podledwyr rygbi ar werth heddiw. Rhagor o wybodaeth: https://www.swansea-arena.co.uk/

Mae perfformwyr eraill a gyhoeddwyd eisoes ar gyfer Arena Abertawe'n cynnwys Alice Cooper a The Cult, Rob Brydon, Katherine Ryan, Diversity, Rhod Gilbert a John Bishop.

Close Dewis iaith