Toglo gwelededd dewislen symudol

Maen nhw'n ôl! Mae'r Red Arrows yn dychwelyd i Abertawe

​​​​​​​Bydd tîm Red Arrows byd enwog yr RAF yn dychwelyd i Abertawe i ddiddanu'r dorf yn Sioe Awyr Cymru'r haf hwn.

Red Arrows over Swansea

Red Arrows over Swansea

Dyma'r perfformwyr enwog cyntaf i'w cadarnhau ar gyfer y digwyddiad deuddydd am ddim hwn a gynhelir ym Mae Abertawe ar 6 a 7 Gorffennaf. Mae'r sioe flynyddol yn cael ei threfnu gan y Cyngor.

Disgwylir i'r Red Arrows berfformio ar y dydd Sadwrn a bydd llu o berfformwyr eraill yn hedfan i'r awyr yn ogystal â digonedd o adloniant difyr ar y ddaear i'r teulu cyfan drwy gydol y penwythnos mawr, gan gynnwys arddangosiadau, profiadau realiti rhithwir a cherddoriaeth fyw.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae'n wych gweld y Red Arrows yn dychwelyd unwaith eto, yn enwedig gan eu bod yn dathlu 60 o flynyddoedd eleni ers iddynt gael eu sefydlu - mae ganddyn nhw amserlen brysur gan gynnwys taith haf ryngwladol a fydd yn para pum wythnos."

Bydd uchafbwyntiau'r haf hwn hefyd yn cynnwys James Arthur, Classic Ibiza a Let's Rock Wales yn perfformio ym Mharc Singleton.

Meddai'r Cyng. Francis-Davies,"Mae'r Sioe Awyr yn cyfrannu miliynau o bunnoedd at fusnesau lleol ac economi leol Abertawe.Ymhlith sêr y sioe mae'r degau ar filoedd o bobl sy'n mwynhau diwrnod mas neu benwythnos yma."

Rhagor o wybodaeth:

Close Dewis iaith