Maen nhw'n ôl! Mae'r Red Arrows yn dychwelyd i Abertawe
Bydd tîm Red Arrows byd enwog yr RAF yn dychwelyd i Abertawe i ddiddanu'r dorf yn Sioe Awyr Cymru'r haf hwn.
Dyma'r perfformwyr enwog cyntaf i'w cadarnhau ar gyfer y digwyddiad deuddydd hwn a gynhelir ar 1 a 2 Gorffennaf. Trefnir y sioe gan Gyngor Abertawe.
Disgwylir i'r Red Arrows berfformio ar y ddau ddiwrnod a bydd hefyd llu o berfformwyr eraill yn hedfan i'r awyr yn ogystal â digonedd o adloniant llawn hwyl ar y ddaear sy'n addas i'r teulu cyfan.
Roedd Sioe Awyr y llynedd yn llwyddiant ysgubol. Roedd yr atyniadau'n cynnwys y Red Arrows a Hediad Coffa Brwydr Prydain.
Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, "Rydym wrth ein boddau y bydd y Red Arrows yn perfformio ym Mae Abertawe unwaith eto.
"Maent yn atyniad enfawr ac yn helpu i ddangos pa mor bwysig yw ein Lluoedd Arfog. Mae'r sioe awyr yn cyfrannu miliynau o bunnoedd i'n heconomi leol. Hoffwn ddiolch i fusnesau a phreswylwyr am eu hamynedd wrth i ni roi mesurau cau ffyrdd hanfodol ar waith, a hoffwn ddiolch i'r holl fasnachwyr am eu cyfraniad.
"Bydd penwythnos y Sioe Awyr yn un i'w gofio. Wrth i enw da Abertawe dyfu fel lleoliad o'r radd flaenaf ar gyfer digwyddiadau mawr, mae'r sioe hon yn bartner gwych i eraill fel IRONMAN 70.3 Abertawe a Chyfres Para Treiathlon y Byd Abertawe sy'n dychwelyd."
Mae uchafbwyntiau eraill yr haf yn cynnwys Madness a Ministry of Sound Classical a fydd yn perfformio ym Mharc Singleton.
Digwyddiadau yn Abertawe: www.joiobaeabertawe.com
Llun: Y Red Arrows uwchben Abertawe.