Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cyngor ac arweiniad ar wrthderfysgaeth

DIFRIFOL yw lefel bygythiad gan derfysgwyr rhyngwladol yn y DU ar hyn o bryd, sy'n golygu bod ymosodiad yn hynod debygol.

Ewch i wefan y Swyddfa Diogelwch Gwrthderfysgaeth Genedlaethol (Yn agor ffenestr newydd) i weld y cyngor a'r arweiniad diweddaraf ar wrthderfysgaeth.

Cynllunio digwyddiadau ac ystyriaethau gwrthderfysgaeth

Efallai eich bod yn gyfarwydd â llunio cynllun ar gyfer eich digwyddiad a byddwch yn gwybod sut i fynd i'r afael â llawer o'r gofynion sy'n ymwneud â diogelwch, ond efallai na fyddwch mor gyfarwydd â materion diogelwch a therfysgaeth yn benodol. Dyma rai o'r pethau yr hoffem i chi eu hystyried wrth roi eich cynllun at ei gilydd; nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr.
 Byddem yn eich annog i lunio cynllun diogelwch ar gyfer digwyddiad sy'n mynd i'r afael â'r bygythiad terfysgaeth, a ddylai ystyried methodolegau ymosodiadau a'ch gwendidau. Y materion allweddol i'w cynnwys fyddai:

  1. Cyn y digwyddiad, sut y byddwch chi'n ei hysbysebu? Byddwch yn ofalus i beidio â rhoi gormod o wybodaeth a all gynorthwyo terfysgwr i gynllunio ymosodiad. Ystyriwch beth y gellir ei gynnwys i atal hyn. Yr enw am hyn yw cyfathrebiadau atal: Arweiniad lleoedd gorlawn - cyfathrebu (GOV.UK) (Yn agor ffenestr newydd)
  2. Eich safle, gan ddechrau o sut i'w gyrraedd, perimedr y safle i'r tu mewn lle mae'r digwyddiad yn cael ei gynnal. Beth yw'r risgiau a beth allwch chi ei wneud i liniaru yn eu herbyn?
  3. Mae cyfathrebu'n allweddol i reoli digwyddiad. A yw'ch dulliau cyfathrebu'n 'addas at y diben'? Nid yw'n ymwneud â sut rydych chi'n cyfathrebu â'ch staff yn unig, mae'n rhaid i chi gyfathrebu â'r cyhoedd hefyd.
  4. Hyfforddiant ar gyfer staff cyflogedig a gwirfoddolwyr. Mae rhywfaint o hyfforddiant e-ddysgu ymwybyddiaeth ACT (Action Counters Terrorism) gwych ar gael am ddim ar-lein i gynyddu ymwybyddiaeth ac i rymuso'ch staff (gweler y ddolen isod).

Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn llunio cynllun diogelwch ar gyfer digwyddiad terfysgol ac efallai y byddwn yn gofyn i chi am fanylion cynllun diogelwch eich digwyddiad wrth ystyried eich cais.

Defnyddiwch y gwefannau a restrir ar y dudalen hon i gael gwybodaeth bellach i liniaru ymosodiad terfysgol a'ch helpu i ddatblygu'ch cynllun diogelwch ar gyfer digwyddiadau.

Rhagor o wybodaeth ac arweiniad