Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun ar gyfer asedau'r cyngor yn helpu i ddatblygu'r ddinas - adroddiad

Mae cynllun eang yn helpu Cyngor Abertawe i dorri costau, denu refeniw newydd, ysgogi adfywiad, creu cartrefi i bobl leol a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Copr Bay and arena from above

Arena and Copr Bay Park

Mae diweddariad yng nghynllun rheoli asedau'r cyngor 2021-25 wedi'i gyflwyno i aelodau'r cyngor.

Mae'n egluro sut mae ymagwedd y cyngor at faterion fel cynllunio i drawsnewid safle'r Ganolfan Ddinesig, gwerthu eiddo dros ben, buddsoddi mewn eiddo masnachol a chyflwyno adfywio trawiadol yn profi'n llwyddiannus.

Meddai Aelod y Cabinet, David Hopkins, "Mae'r cynllun hwn yn nodi ac yn datblygu ymagwedd barhaus y cyngor at reoli'i bortffolio asedau eiddo  - ac mae'r adroddiad hwn yn darparu diweddariad ar elfennau allweddol y cynnydd."

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at gynllun y cyngor i adleoli mwy o'i staff sy'n dal i weithio yn y Ganolfan Ddinesig i Neuadd y Ddinas.

Bydd eraill yn aros yn y safle glan môr wrth i waith fynd ymlaen ar leoliadau newydd y cyngor, gan gynnwys hen safle BHS fel hwb sector cyhoeddus yn agos i Arena Abertawe.

Bydd gwacáu safle'r Ganolfan Ddinesig hefyd yn caniatáu i'r cyngor weithio gydag eraill ar ailddatblygu'r lleoliad hwnnw.

Mae'r adroddiad hefyd yn egluro sut mae'r cyngor yn rheoli gwerthu tir ac eiddo dros ben. Mae hyn wedi helpu'r cyngor i greu cartrefi newydd i bobl leol.

Mae rhan arall o'r adroddiad yn canolbwyntio ar sut mae'r cyngor yn buddsoddi mewn eiddo masnachol.

Mae cyfleoedd adfywio'n rhan o'r cynllun asedau, gyda phrosiectau fel yr arena a 71-72 Ffordd y Brenin.

Mae partneriaeth cyngor ag Urban Splash yn parhau i wneud cynnydd da. Mae gwaith dylunio cynnar wedi dechrau ar gyfer lleoliadau fel Cam 2 Bae Copr.

Yn y cyfamser, mae'r gwaith i ailddatblygu pwerdy Gwaith Copr yr Hafod ar gyfer Distyllfa Penderyn bron â chael ei gwblhau.

Mae gwaith ailwampio hefyd yn parhau yn adeilad Theatr y Palace.

Llun: Arena Abertawe

 

 

Close Dewis iaith