Athletwyr de Cymru yn barod ar gyfer wythnos fawr o chwaraeon
Mae athletwyr o Abertawe a rhannau eraill o dde Cymru wrthi'n paratoi ar gyfer wythnos wych o chwaraeon yn y ddinas.
Bydd cannoedd ohonynt ymhlith y miloedd a fydd yn dod o bob rhan o Ewrop i gymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau o safon.
Yn yr un modd â threfnwyr a phartneriaid yr wythnos, maent am i bobl leol gael eu hysbrydoli gan yr wythnos fawr, cystadlu yn y chwaraeon a'u mwynhau.
Ar 1-7 Awst cynhelir y digwyddiad rhyngwladol am ddim i wylwyr yn Abertawe, sef IRONMAN 70.3 Abertawe, Cyfres Para Treiathlon y Byd 2022 Volvo Abertawe a'r Ŵyl Parachwaraeon.
Cefnogir yr wythnos gan Gyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru. Fe'i trefnir gan IRONMAN a Threiathlon Prydain.
Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Mae'n braf gweld athletwyr Cymru'n paratoi ar gyfer yr wythnos wych hon o chwaraeon. Bydd y ddinas yn estyn croeso cynes i'r miloedd o athletwyr a chefnogwyr a fydd yn cyrraedd."
Mae'r athletwyr Tracey Williamsa Lewis Bradley, sy'n aelodau o glwb chwaraeon Celtic Tri yn ne Cymru, ymhlith y rheini a fydd yn cymryd rhan yn IRONMAN 70.3 Abertawe.
Un o aelodau sefydlu'r clwb yw Tracey ac mae Lewis yn un o'r aelodau diweddaraf.
Meddai Tracey, "Bydd yr wythnos hon yn tynnu sylw rhyngwladol at ein hardal ac rwy'n credu y bydd y rheini a fydd yn dod yma i gymryd rhan neu i gefnogi'n synnu wrth weld yr hyn sydd gan yr ardal hon i'w gynnig."
Meddai Lewis, "Mae'n mynd i fod yn wythnos wych o chwaraeon yn Abertawe a phenrhyn Gŵyr; Rwy'n hyfforddi llawer ar gyfer digwyddiad IRONMAN ac rwy'n gwybod bod cannoedd o bobl eraill yn gwneud yr un peth!"
Cyfres Para Treiathlon y Byd 2022 Volvo Abertawe ar ddydd Sadwrn 6 Awst yw prif ddigwyddiad Gŵyl Parachwaraeon Chwaraeon Anabledd Cymru.
Bydd IROMAN 70.3 Abertawe, sydd hefyd yn newydd ar gyfer 2022, yn cael ei gynnal am y tro cyntaf ddydd Sul 7 Awst, gyda digwyddiad nofio, beicio a rhedeg pellter canol.
Bydd y ddau ddigwyddiad yn rhoi'r cyfle i breswylwyr lleol ac ymwelwyr wylio digwyddiad chwaraeon o'r radd flaenaf a chymryd rhan ynddo.
Gall preswylwyr, ymwelwyr a busnesau ag unrhyw ymholiadau ynghylch trefniadau fel newidiadau i drefn ffyrdd e-bostio swansea@britishtriathlon.org a swansea70.3@ironmanroadaccess.com.
Manylion llawn: www.bit.ly/WTPSswansea & www.ironman.com/im703-swansea
Llun: Yr athletwyr o Abertawe, Tracey Williams a Lewis Bradley, sy'n rhan o glwb Celtic Tri.