Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwyl Gŵyl y Banc sy'n addas i bob cyllideb

Mae amrywiaeth eang o hwyl gŵyl y banc ar gael y penwythnos hwn, diolch i atyniadau a gweithgareddau Cyngor Abertawe.

Pedalo, Singleton Park

Pedalo, Singleton Park

Mae llawer o'r gweithgareddau am ddim neu ar gael am gost isel, gan helpu teuluoedd drwy'r argyfwng costau byw.

Meddai Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, "Rydym am i bobl ar draws y ddinas a'r sir gael amser gwych y penwythnos hwn.

"Mae'r atyniadau rydym yn eu rhedeg a'u rheoli'n amrywio o draethau tywodlyd, eang i leoliadau diwylliannol o safon, ac o atyniadau awyr agored poblogaidd tu hwnt fel golff gwallgof, i atyniadau am ddim gwych fel Lido Blackpill."

Mae parciau a thraethau a reolir gan y cyngor yn ddewis gwych ar gyfer picnic os yw'r haul yn tywynnu.

Gallwch fynd ar bedalo o gwmpas Llyn Cychod Singleton neu roi cynnig ar golff gwallgof yno neu yng ngerddi Southend.

Mae gan Lido Blackpill ar lan y môr barc dŵr awyr agored gyda phwll padlo ynghyd â lawntiau a maes chwarae.

Disgwylir i Gastell Ystumllwynarth gynnal Diwrnod Tywysogion a Thywysogesau ddydd Llun, gyda chymeriadau lliwgar, cerddoriaeth a straeon yn cael eu hadrodd.

Gall preswylwyr Abertawe sy'n rhan o gynllun Pasbort i Hamdden y cyngor arbed arian ar atyniadau y telir amdanynt.

Mae gwasanaeth bws am ddim y cyngor yn rhedeg bob dydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun, sy'n golygu y gallwch deithio ar fws i unrhyw le yn Abertawe am ddim.

Mae lleoliadau diwylliannol a llyfrgelloedd uchel eu parch y cyngor yn parhau i gynnal digwyddiadau a gweithgareddau am ddim.

Gallwch fwynhau Canolfan Dylan Thomas, Oriel Gelf Glynn Vivian, Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau am ddim.

Bydd gemau gardd yn Amgueddfa Abertawe a chyfle i roi cynnig ar Lwybr Llygod yr Amgueddfa.

Mae gweithgareddau eraill dros benwythnos gŵyl y banc yn cynnwys straeon a chrefftau i blant dros ddwy oed yn Llyfrgell Ganolog Abertawe ddydd Sadwrn yma rhwng 2pm a 3pm, a llwybr pasbort gwyliau'r haf yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Mwy

Llun: Llyn Cychod Singleton.

 

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Awst 2023