Toglo gwelededd dewislen symudol

£250 mil yn ychwanegol i helpu i fwydo plant yn ystod y gwyliau ysgol

Mae Cyngor Abertawe'n buddsoddi £250,000 yn ychwanegol mewn cefnogi prosiectau i ddarparu bwyd i blant a phobl ifanc yn ystod gwyliau ysgol yr haf hwn.

Playday free food

Playday free food

Bydd yr arian ychwanegol yn helpu i ddarparu tua 50,000 o brydau bwyd ychwanegol i blant yn Abertawe sydd mewn perygl o fynd heb fwyd.

Mewn ymateb i bandemig COVID-19, cyflwynodd Llywodraeth Cymru daliadau dros dro yn ystod y gwyliau ysgol i deuluoedd a oedd yn derbyn prydau ysgol am ddim, ond maent bellach wedi dod i ben.

I helpu i gefnogi teuluoedd, mae'r cyngor yn ariannu prosiectau sy'n cynnig clybiau brecwast a chinio, yn ogystal â mentrau bwyd eraill fel prydau bwyd, bagiau bwyd a thalebau.

Gall banciau bwyd presennol hefyd gael mynediad at y gefnogaeth hon i atgyfnerthu eu cyflenwadau.

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Rydym am i wyliau ysgol yr haf fod yn fforddiadwy ac yn ddifyr i bob teulu ond rydym yn ymwybodol iawn bod nifer yn ei chael hi'n anodd yn ystod yr argyfwng costau byw.

"Bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn mewn grwpiau a sefydliadau sy'n gweithio yn ein cymunedau mwyaf diamddiffyn yn sicrhau bod 50,000 o brydau bwyd ychwanegol yn cael eu gweini i'r rheini y mae eu hangen arnynt fwyaf.

"Mae mentrau eraill i gefnogi pob teulu yr haf hwn yn cynnwys y rhaglen fwyaf erioed o weithgareddau a digwyddiadau am ddim neu â chymhorthdal i blant a phobl ifanc a welwyd yn y ddinas, yn ogystal â theithio ar fysus am ddim bob dydd Gwener, dydd Sadwrn, dydd Sul a dydd Llun yn ystod y gwyliau ysgol."

Close Dewis iaith