Toglo gwelededd dewislen symudol

Tymor o gerddoriaeth gan gerddorfa o safon yn Abertawe

​​​​​​​Mae tymor disglair o gerddoriaeth gan un o gerddorfeydd gorau'r DU ar y gweill yn Abertawe.

BBC National Orchestra of Wales

BBC National Orchestra of Wales

Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio cyfres o chwe chyngerdd yn Neuadd Brangwyn fawreddog Cyngor Abertawe.

Mae'r gerddoriaeth o fri rhyngwladol a fydd yn cael ei pherfformio yn amrywio o ddarnau gan Syr Karl Jenkins o Ben-clawdd i Sergey Rachmaninov o Rwsia.

Mae'r perfformwyr enwog yn cynnwys y delynores o Gymru, Catrin Finch, a Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Elliot King, "Mae cynnal y gerddorfa wych hon yn Abertawe yn wledd i gynulleidfaoedd Neuadd Brangwyn. Byddant yn mwynhau tymor llawn cerddorion o'r radd flaenaf a darnau eithriadol o gerddoriaeth."

Meddai Sassy Hicks o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, "O ddarnau clasurol enwog y bydd pawb yn eu hadnabod, i berfformiad arbennig iawn i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi a chyngerdd enfawr i deuluoedd ym mis Mehefin, mae rhywbeth at ddant pawb sy'n mwynhau cerddoriaeth yn Abertawe'r tymor hwn."

I ddechrau'r holl berfformiadau, ar 10 Chwefror, roedd perfformiad Concerto Rhif 1 Beethoven yn C fwyaf i'r Piano a Symffoni Rhif 13 yn B leiaf 'Babi Yar' Shostakovich.

Cynhelir digwyddiad nesaf Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn Neuadd Brangwyn yn ystod y 'Stravaganza' Dydd Gŵyl Dewi ar 29 Chwefror. Bydd yn gyfle i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ddiwrnod yn gynnar gyda cherddoriaeth gan y cyfansoddwyr o Gymru, William Mathias, Syr Karl Jenkins, Jeffrey Howard, Grace Williams a James James.

Mae'r digwyddiadau eraill yn cynnwys: 8 Mawrth - Symffoni Rhif 2 Rachmaninov gyda Martyn Brabbins; 12 Ebrill - Enigma Variations 10 Mai - Concerto ar gyfer Cerddorfa, Bartók; 7 Mehefin - Cyngerdd i gloi'r tymor.

Llun: Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

 

 

 

Close Dewis iaith