Toglo gwelededd dewislen symudol

Cerddor byd enwog i gloi tymor cyngherddau Abertawe

Bydd tymor cyngherddau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn Abertawe'n cloi gyda pherfformiad gan gerddor byd enwog.

BBC National Orchestra of Wales

BBC National Orchestra of Wales

Mae'r tymor yn cael ei hwyluso gan y Cyngor ac mae'n cynnwys chwe chyngerdd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn Neuadd Brangwyn, a chynhelir y cyngerdd i gloi'r tymor yno ar 7 Mehefin. Bydd yn cynnwys perfformiad gan y sielydd Alisa Weilerstein.

Meddai Sassy Hicks o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, "Mae tymor Abertawe bron â dod i ben ac rydym yn bwriadu cloi'r tymor mewn steil gydag Alisa a'n prif arweinydd, Ryan Bancroft.

"Bydd hefyd sioe CBeebies llawn hwyl ar 1 Mehefin yn Arena Abertawe."

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Elliot King, "Mae wedi bod yn brofiad gwych croesawu Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn ôl i Abertawe am yr ail flwyddyn yn olynol.

"Bydd cyngerdd CBeebies Prom: Ocean Adventure a chyngerdd cloi'r tymor Neuadd Brangwyn yn ffordd wych o ddod â'r tymor i ben."

Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau ac yn gweithio'n agos gydag ysgolion a sefydliadau cerdd.

Mae ei thymor presennol yn Abertawe yn cynnwys cerddoriaeth o fri rhyngwladol, gan gynnwys darnau gan Syr Karl Jenkins o Ben-clawdd.

Gall myfyrwyr a phobl dan 26 oed fwynhau cyngherddau'r gerddorfa yn Neuadd Brangwyn y tymor hwn am £5 yn unig.

Llun: Alisa Weilerstein.

Close Dewis iaith