Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun gweithredu newydd yn yr arfaeth ar gyfer gwaith adfer natur

​​​​​​​Caiff cynllun gweithredu newydd ei lansio i helpu Abertawe i fynd i'r afael â'r argyfwng natur.

Moth Counting

Moth Counting

Bu Cyngor Abertawe yn trafod y cynllun yn ystod cyfarfod yr aelodau ar 21 Mawrth.

Cytunwyd i fabwysiadu Cynllun Gweithredu Dyletswydd Bioamrywiaeth Adran 6; bydd yn helpu'r cyngor i gyflawni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

Bydd hefyd yn cyfrannu at ein nod o helpu i wneud y sefydliad yn sero-net erbyn 2030, a'r ddinas yn sero-net erbyn 2050.

Meddai David Hopkins, Dirprwy Arweinydd ar y Cyd y cyngor ac Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol, "Bydd y cynllun gweithredu hwn yn ysgogwr allweddol ar gyfer ein hymdrechion i gynnal a gwella bioamrywiaeth ac i gyfrannu at dargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer adfer natur.

"Rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd a natur, ond gallwn newid hyn drwy adfer natur."

Mae'r camau gweithredu'n cynnwys helpu i roi bioamrywiaeth wrth wraidd gwneud penderfyniadau, diogelu rhywogaethau a chynefinoedd allweddol ac adfer cynefinoedd sy'n diraddio.

Mae'r cyngor eisoes yn gwneud llawer i helpu bywyd gwyllt, fel plannu coed, cynyddu nifer y blodau gwyllt sy'n tyfu yn ein parciau ac ar ymylon ffyrdd, gwneud y ddinas yn wyrddach, gweithio gydag ysgolion, gosod blychau adar a gofalu am ein gwarchodfeydd natur a safleoedd bywyd gwyllt.

Un flaenoriaeth lles corfforaethol yng nghynllun corfforaethol y cyngor yw mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ac adfer natur.