Toglo gwelededd dewislen symudol

Prifysgolion yn canmol y prosiect Eden Las sy'n 'arwyddocaol drwy'r byd i gyd'

Mae arweinwyr prifysgolion yn Abertawe yn dweud bod datblygiad £1.7m Eden Las yn brosiect trawsnewidiol a fydd yn sicrhau statws y ddinas fel canolfan ar gyfer arloesedd mewn ynni adnewyddadwy a fydd yn arwyddocaol drwy'r byd i gyd.

Blue Eden manufacturing plant

Blue Eden manufacturing plant

Mae adeiledd morlyn llanw 9.5km yn rhan o brosiect Eden Las a fydd yn cynnwys tyrbinau tanddwr o'r radd flaenaf, a fydd yn cynhyrchu 320 megawat o ynni adnewyddadwy.

Mae prosiect Eden Las yn cael ei arwain gan DST Innovations o Ben-y-bont ar Ogwr a'u partneriaid busnes, gyda chefnogaeth gan Gyngor Abertawe ac Associated British Ports.

Bydd y prosiect, a ariennir drwy gyllid gan y sector preifat, yn cael ei gyflwyno mewn tri cham dros 12 mlynedd.

Mae hefyd yn cynnwys ffatri weithgynhyrchu i greu batris uwch-dechnoleg ar gyfer storio ynni adnewyddadwy, ynghyd â chyfleuster storio batris i storio'r ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn Eden Las a phweru'r safle.

Bydd casgliad o baneli solar arnofiol hefyd yn cynnwys canolfan ymchwil y dyfroedd a newid yn yr hinsawdd ynghyd â chanolfan ddata, cartrefi preswyl ar y glannau a thua 150 o eco-gartrefi hynod ynni effeithlon arnofiol, wedi'u hangori yn y dŵr.

Bydd Eden Las yn creu dros 2,500 o swyddi parhaol ac yn cefnogi 16,000 o swyddi eraill ar draws Cymru a'r DU, wrth greu swyddi ychwanegol yn ystod y gwaith adeiladu.

Meddai'r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, "Mae Prifysgol Abertawe yn cefnogi uchelgeisiau menter Eden Las a fydd yn sicrhau statws ein dinas fel canolfan ar gyfer arloesedd mewn ynni adnewyddadwy ac isadeiledd gwyrdd a fydd yn arwyddocaol drwy'r byd i gyd.

"Mae'r prosiect hwn yn ategu cryfderau ymchwil ein Prifysgol mewn datgarboneiddio, ynni adnewyddadwy a gwyddor data. Gan adeiladu ar ein partneriaeth hirsefydlog â Chyngor Abertawe, rydym yn croesawu'r cyfleoedd i ddarparu'r datblygiad ymchwil, hyfforddiant a sgiliau a fydd yn sail i dwf economaidd lleol."

Meddai'r Athro Medwin Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bydd y prosiect trawsnewidiol hwn yn cael effaith sylweddol drwy greu swyddi gwerth uchel ar draws y rhanbarth.

"Mae'r brifysgol, fel partner allweddol yn edrych ymlaen at gefnogi'r fenter hon wrth ddatblygu a chyflwyno sgiliau technegol uwch a fydd yn cefnogi technoleg sy'n dod o'r amlwg a'r cwmnïau sy'n gysylltiedig ag Eden Las.

"Bydd yr ymagwedd gyfannol hon at adfywio'n gosod Abertawe 'n ganolfan ragoriaeth ar gyfer ymchwil ac arloesedd gwyrdd a meddwl cynaliadwy."

Caiff Eden Las ei lleoli ar hyd ardal helaeth o dir a dŵr, i'r de o Ddoc Tywysog Cymru yn ardal SA1 Abertawe.

Caiff holl adeiladau a chyfleusterau'r prosiect, gan gynnwys yr eco-gartrefi, eu lleoli ar hyd y morlyn, a byddant yn defnyddio ac yn gwella'r tir presennol yn yr ardal.

Caiff yr ynni a gynhyrchir gan y morlyn a'r casgliad o baneli solar ei ddefnyddio ar y safle ond mae lle hefyd i allforio 32% o'r ynni hwnnw i'r grid er budd preswylwyr a busnesau lleol. Bydd swm yr ynni gwyrdd a ddefnyddir gan ddatblygiad Eden Las hefyd yn arbed cryn dipyn o ynni rhag cael ei ddefnyddio o'r grid yn y dyfodol.

Gallai gwaith Eden Las ddechrau ar safle'n gynnar yn 2023, yn amodol ar ganiatâd cynllunio.    

Close Dewis iaith