Busnesau a'r brifysgol yn cefnogi ardal Bae Copr
Mae arweinwyr busnesau a phrifysgol Abertawe wedi cymeradwyo ardal newydd cam un Bae Copr y ddinas sy'n werth £135 miliwn.
Cafodd grŵp bach ohonynt eu tywys o gwmpas yr ardal sy'n cynnwys Arena Abertawe, y parc arfordirol a'r bont newydd nodedig dros Oystermouth Road.
Mae fflatiau, mannau lletygarwch a busnesau hamdden a digonedd o leoedd parcio hefyd yn rhan o gam un Bae Copr.
Caiff ardal cam un Bae Copr ei datblygu gan Gyngor Abertawe, gyda chyngor y rheolwr datblygu RivingtonHark.
Disgwylir i'r gwaith adeiladau, dan arweiniad Buckingham Group Contracting Limited, gael ei gwblhau eleni.
Meddai'r Athro Ian Walsh, Prifathro campysau Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant Abertawe a Chaerdydd, "Mae PCYDDS yn falch iawn o fod yn brifysgol yng nghanol Abertawe ac yn bartner gyda Chyngor Abertawe a BID Abertawe yn y newidiadau trawsnewidiol sy'n digwydd i wella statws Abertawe fel un o ddinasoedd y glannau gorau'r DU a chyrchfan atyniadol i fyfyrwyr o bob cwr o'r byd.
"Rydym wrth ein bodd i weld y cynnydd sy'n cael ei wneud yn arena ac ardal cam un Bae Copr y ddinas i greu gem newydd yng nghanol coron Abertawe."
Wrth siarad am Arena Abertawe, meddai Lisa Hartley, Rheolwr Canolfan Siopa'r Cwadrant, "Mae'n anhygoel. Gallwch ddychmygu bod yno, yng nghanol cyngerdd neu sioe. Mae'n wych gweld yr holl ddelweddau rydym wedi'u gweld yn dod yn fyw."
Meddai Russell Greenslade, Prif Weithredwr Rhanbarth Gwella Busnes Abertawe (BID), "Mae'n rhyfeddol gweld hyn yn digwydd yng nghanol y ddinas ac yn yr ardal gwella busnes.
Ar ran yr 800 o fusnesau fwy neu lai sydd yn nghanol y ddinas rydym yn edych ymlaen yn eiddgar at yr adeg pan fydd cam un Bae Copr yn weithredol fel y gall Abertawe gyfan elwa. Llongyfarchiadau i Gyngor Abertawe a'i bartneriaid am gyflawni'r prosiect."
Meddai Juliet Luporini, Cadeirydd BID Abertawe, "Mae'r arena ac ardal cam un gyfan Bae Copr yn wych. Mae'n rhywbeth y gall Abertawe fod yn falch iawn ohono, nawr ac yn y dyfodol."
Cyngor Abertawe sy'n ariannu Cam Un Bae Copr, a daw rhywfaint o'r cyllid ar gyfer yr arena o Fargen Ddinesig Bae Abertawe.
Ariennir y bont nodedig sy'n rhan o'r cynllun, yn rhannol gan grant Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.