Toglo gwelededd dewislen symudol

Digonedd o hwyl ar gael yn Abertawe dros Ŵyl y Banc

​​​​​​​Mae amrywiaeth eang o hwyl gŵyl y banc ar gael y penwythnos hwn, diolch i atyniadau a gweithgareddau Cyngor Abertawe.

Blackpill Lido

Blackpill Lido

Mae llawer o atyniadau, gan gynnwys lido poblogaidd Blackpill, am ddim neu ar gael am gost isel, gan helpu teuluoedd drwy'r argyfwng costau byw.

Mae digonedd o bethau difyr i'w mwynhau gyda'r teulu sy'n amrywio o leoliadau diwylliannol sy'n cynnig mynediad am ddim fel Amgueddfa Abertawe, Canolfan Dylan Thomas, Oriel Gelf Glynn Vivian a llyfrgelloedd, i atyniadau fel Trên Bach y Bae, golff gwallgof a phedalos llyn cychod Singleton.

Mae'r Cyngor hefyd yn gofalu am amrywiaeth o fannau agored, gan gynnwys nifer o draethau a pharciau.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Rydym am i bobl gael amser gwych y penwythnos hwn; mae lleoliadau fel Lido Blackpill yn berffaith ar gyfer teuluoedd o bob rhan o Abertawe."

Mae gan Lido Blackpill bwll padlo, ardal chwarae i blant, craig ddringo a chyfleusterau picnic.

Mae ffynhonnau i chwarae ynddynt, mannau i fwynhau picnic a chyfleusterau cyfagos gan gynnwys caffis. Gallwch gyrraedd y safle ar droed, drwy feicio ar hyd y llwybr beicio glan môr, ar fws - mae safle bws yn agos iawn - ac mewn car, gan fod cyfleusterau parcio gerllaw.

Ar agor bob dydd rhwng 9am a 5pm tan 22 Medi.

Gall preswylwyr Abertawe sy'n rhan o gynllun Pasbort i Hamdden y Cyngor arbed arian ar atyniadau y telir amdanynt, fel Castell Ystumllwynarth.

Mae lleoliadau diwylliannol a llyfrgelloedd y Cyngor yn parhau i gynnal digwyddiadau a gweithgareddau am ddim. Gallwch hefyd gael mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Llun: Lido Blackpill.

Close Dewis iaith