Toglo gwelededd dewislen symudol

Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad gwerth £1.3 biliwn a sicrhawyd gan Ddinas-ranbarth Bae Abertawe ar gyfer 11 o brosiectau mawr ledled Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Swansea Bay City Deal Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Caiff y Fargen Ddinesig gyllid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat.
 
Bydd Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a'r Glannau yn cynnwys pentref digidol ar Ffordd Y Brenin, gyda mannau deori a mannau cydweithio ar gyfer busnesau newydd a busnesau bach sy'n gweithio yn sectorau'r diwydiant TGCh a thechnoleg a'r diwydiant creadigol.

Bydd arian y Fargen Ddinesig hefyd yn galluogi datblygiad sgwâr digidol sy'n rhan o gynlluniau adfywio Canol Dinas Abertawe, yn ogystal â digideiddio'r arena dan do a gynlluniwyd ar gyfer safle maes parcio'r Ganolfan Hamdden.

Hefyd, bwriedir datblygu 'pentref blychau' ar gyfer campws SA1 Glannau Abertawe Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, lle bydd cynwysyddion a ddefnyddir ar longau yn cael eu trawsnewid er mwyn cynnig lle hyblyg, fforddiadwy i gwmnïau newydd. Bydd hyn yn dod â myfyrwyr, academyddion a busnesau at ei gilydd i rannu arbenigedd ac archwilio meysydd newydd o ran twf.

Bydd rhwydwaith Campws Gwyddorau Bywyd a Llesiant yn adeiladu ar lwyddiant menter Sefydliad Gwyddor Bywyd, Prifysgol Abertawe, gan ddarparu amgylchedd o'r radd flaenaf ar gyfer ymchwil a phrofion clinigol integredig, yn ogystal â chanolfannau datblygu sgiliau.  Bydd hybiau arloesi gwyddorau bywyd yn cael eu creu ar draws y rhanbarth, mewn ysbytai a lleoliadau gofal sylfaenol.

Bydd seilwaith digidol y genhedlaeth nesaf yn sail i bob prosiect y Fargen Ddinesig, yn ogystal â Menter Sgiliau a Thalentau a fydd yn rhoi llwybr i bobl ifanc mewn ysgolion a cholegau i gael mynediad at y 10,000 o swyddi o ansawdd uchel a gaiff eu creu yn ystod y 15 mlynedd nesaf.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 02 Medi 2021