Toglo gwelededd dewislen symudol

Mwy na 5,000 o bobl yn defnyddio sgubor chwaraeon yn ei mis cyntaf

Mae cyfleusterau chwaraeon a hamdden newydd yn ochr ddwyreiniol Abertawe eisoes yn llwyddiannus tu hwnt

Cefn Hengoed Sports Barn cabinet visit

Cefn Hengoed Sports Barn cabinet visit

Mae timau pêl-droed merched a bechgyn yn ogystal â nifer o glybiau chwaraeon llawr gwlad eraill yn heidio i'r sgubor chwaraeon dan do newydd yn Ysgol Gymunedol a Chanolfan Hamdden Cefn Hengoed, ac mae llawer o sesiynau gyda'r nos ac ar y penwythnos yn llawn.

Ychydig wythnosau ar ôl agor, mae nifer yr aelodau yn y gampfa dan do newydd bron â dyblu, ac mae'r neuadd chwaraeon wedi'i hailwampio'n profi'n boblogaidd iawn gyda chynghreiriau pêl-rwyd ar draws y rhanbarth.

Mae disgyblion hefyd yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleusterau o'r radd flaenaf yn ystod oriau ysgol.

Mae mwy na £7.5 miliwn wedi'i fuddsoddi yn y safle sy'n cael ei reoli gan Freedom Leisure, sy'n gyfrifol am reoli cyfleusterau hamdden Abertawe ar ran Cyngor Abertawe.

Meddai Jim Kelly, Rheolwr Cyffredinol Cefn Hengoed, "Mae'r galw am y sgubor chwaraeon wedi rhagori ar bob disgwyliad, gyda thros 5,000 o ddefnyddwyr yn y mis cyntaf ar ôl agor."