Cynnydd yn mynd rhagddo ar ganolfan hamdden a sgubor chwaraeon newydd
Mae gwaith ar sgubor chwaraeon dan do newydd yn Ysgol Gymunedol a Chanolfan Hamdden Cefn Hengoed yn parhau i fynd rhagddo cyn iddi agor yn y flwyddyn newydd.
Mae sgerbwd allanol yr adeilad yn ei le ac mae gwaith yn mynd rhagddo i osod y cae 3G dan do.
Mae'n rhan o fuddsoddiad gwerth £7.5m sydd hefyd yn cynnwys gwelliannau i'r ysgol, y ganolfan hamdden a chanolfan ymgysylltu newydd i deuluoedd.
Bydd y ganolfan hamdden newydd, a weithredir gan Freedom Leisure Abertawe, ymddiriedolaeth elusennol hamdden nid er elw, yn cynnwys campfa newydd sbon, neuadd chwaraeon lawer gwell a chyfleusterau newid.
Bydd y cyfleusterau ffitrwydd newydd ar agor am gyfnod hirach, bob dydd o'r wythnos ac yn cynnwys campfa fwy a mwy o ddosbarthiadau ffitrwydd nag erioed o'r blaen.