Toglo gwelededd dewislen symudol

Peidiwch â cholli'r cyfle i gael haf llawn blodau

Does dim llawer o amser ar ôl i'r preswylwyr hynny sydd am sicrhau bod ganddynt erddi lliwgar yr haf hwn, gydag ychydig o gymorth gan wasanaeth basgedi crog enwog Cyngor Abertawe.

Hanging basket on brick background.

Hanging basket on brick background.

Mae bron 1,300 o'r basgedi poblogaidd wedi'u gwerthu eisoes a bydd 21 planhigyn ym mhob un ohonynt, gan gynnwys petwnias a begonias yn ogystal ag amrywiaeth o flodau lliwgar eraill sy'n hawdd eu trin.

Y llynedd danfonwyd 1,500 o fasgedi i gartrefi a busnesau,  a chafodd rhai eraill eu hongian oddi ar bolion lampau a'u gosod mewn cafnau blodau mewn cymunedau ar draws y ddinas.

Mae'r tymor tyfu newydd ddechrau a disgwylir i ddanfoniadau gael eu gwneud ym mis Mai, gyda phob basged yn para tan fis Hydref os yw pobl yn gofalu amdanynt. Bydd pob basged yn 35cm (14 modfedd) mewn diamedr.

Meddai Andrew Stevens, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd, "Mae ein gwasanaeth basgedi crog yn un o'r gwasanaethau mwyaf poblogaidd sydd gennym, gyda channoedd o breswylwyr yn dychwelyd bob blwyddyn oherwydd safon y gwasanaeth.

"Bydd ein timau hyd yn oed yn danfon y basgedi y tu allan i Abertawe, i gymunedau yng Nghastell-nedd Port Talbot, Rhydaman a Llanelli. Ac mae pob basged grog yn cynnwys taflen 'sut i ofalu am eich basged' fel y gall perchnogion fwynhau'r lliwiau tan ddechrau mis Hydref.

"Yn ogystal â rhoi pleser, maen nhw'n dda i'r amgylchedd a'r pryfed hefyd."

Os ydych chi'n prynu basged grog fel anrheg, mae'r wefan yn cynnig yr opsiwn i lawrlwytho cerdyn rhodd ar gyfer y derbynnydd.

Ewch i www.abertawe.gov.uk/basgedicrog am fanylion archebu.

Hanging baskets - Rake and riddle garden.
 
Hanging basket - shop corner.
 
Hanging basket - Pontarddulais single (blue background).

Close Dewis iaith