Help i Bleidleiswyr Anabl
Rydym yn ceisio gwneud ein holl orsafoedd pleidleisio yn hygyrch i gadeiriau olwyn a gallwn ddarparu rampiau lle bo angen.
Yn ogystal â hyn:
- Mae gan bob gorsaf bleidleisio fwth pleidleisio wedi'i addasu ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn
- Mae fersiynau print mawr o bapur(au) pleidleisio ar gael ym mhob gorsaf bleidleisio, ynghyd â chymhorthion i alluogi pleidleiswyr dall i nodi eu papurau pleidleisio heb gymorth
Papur Pleidleiso Sain
Os ydych chi'n bleidleisiwr Anabl ac mae angen cymorth arnoch i gwblhau papur pleidleisio ar eich pen eich hun, gallwch fynd â ffrind neu berthynas i'r orsaf bleidleisio i'ch cynorthwyo
- Gall y Swyddog Llywyddu yn yr orsaf bleidleisio eich helpu chi i lenwi'ch papur pleidleisio
- Dyfais Bleidleisio Gyffyrddadwy ar gyfer pobl â nam ar eu golwg
- Chwyddwydrau Mawr
- Gripiau pensil
- Cadeiriau i bobl na allant sefyll am gyfnodau hir
Os nad ydych chi am fynd i'r orsaf bleidleisio, gallwch bleidleisio drwy'r post, a gall pleidleiswyr sydd ag anabledd gael pleidlais ddirprwy barhaol (dyma lle rydych chi'n enwebu rhywun i bleidleisio ar eich rhan yn eich gorsaf bleidleisio).
Ffurflenni pleidleisio post neu ddirprwy
Mae canllawiau a ffurflenni cais post a ddirprwy ar gael i'w lawrlwytho o wefan y Comisiwn Etholiadol neu drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Etholiadol.
Gwybodaeth i bleidleiswyr anabl
Mae gan bob pleidleisiwr hawl i bleidleisio'n annibynnol ac yn ddirgel. Bellach mae'n rhaid i awdurdodau lleol ym Mhrydain Fawr gymryd camau rhagweithiol i sicrhau nad yw gorsafoedd pleidleisio yn rhoi pobl anabl dan anfantais.
Darllenwch ragor am hawliau pleidleisio pobl anabl.
Mae Mencap wedi darparu pecyn adnoddau i helpu pobl sydd ag anabledd dysgu i ddeall pleidleisio a gwleidyddiaeth.
Mae gan Gov.uk gwybodaeth i helpu pobl ag anabledd dysgu a'u gweithwyr cymorth i ddeall beth yw pleidleisio, pam ei fod mor bwysig, a sut gallwch chi bleidleisio.