Toglo gwelededd dewislen symudol

Prosiect Eden Las gwerth £1.7 biliwn wedi'i gyhoeddi ar gyfer Abertawe

Mae prosiect gwerth £1.7 biliwn a fydd yn creu miloedd o swyddi â chyflogau da ac yn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran arloesedd ynni adnewyddadwy wedi ei gyhoeddi gan gonsortiwm rhyngwladol.

Blue Eden

Blue Eden

Bydd y prosiect arloesol a gynigiwyd ar gyfer glannau Abertawe yn cynnwys morlyn llanw newydd, sy'n cynnwys tyrbinau tanddwr o'r radd flaenaf, a fydd yn cynhyrchu 320 megawat o ynni adnewyddadwy o'r adeiledd 9.5km.

Mae'r morlyn yn rhan o'r prosiect Eden Las arfaethedig ehangach sy'n cael ei arwain gan DST Innovations o Ben-y-bot ar Ogwr a nifer o bartneriaid busnes, gyda chefnogaeth Cyngor Abertawe ac Associated British Ports.

Bydd prosiect arloesol Eden Las, a fydd yn rhoi hwb i'r economi, yn cael ei ariannu gan y sector preifat a'i gyflwyno mewn 3 cham dros 12 mlynedd. Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys:

  • Ffatri weithgynhyrchu 60,000 metr sgwâr i gynhyrchu batris uwch-dechnoleg ar gyfer storio ynni adnewyddadwy
  • Cyfleuster batri a fydd yn storio'r ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn Eden Las ac yn pweru'r safle. Pe bai'n cael ei adeiladu yn awr, dyma fyddai'r cyfleuster mwyaf o'i fath yn y byd
  • Casgliad o baneli solar 72,000 metr sgwâr arnofiol, wedi'u hangori yn ardal Doc y Frenhines, a fydd yn helpu i wrthbwyso tua dwy filiwn cilogram o allyriadau CO2 y flwyddyn. Dyma fyddai'r cyfleuster mwyaf o'i fath yn y DU, gyda'r posibilrwydd o'i ehangu
  • Canolfan ddata 94,000 metr sgwâr sy'n storio, yn prosesu ac yn darparu galluoedd rhwydwaith ar gyfer y gwasanaethau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer gweithrediadau modern. Wedi'i phweru'n llwyr gan gyflenwad pŵer ynni adnewyddadwy nad oes modd tarfu arno, dyma fyddai'r ganolfan gyntaf o'i bath yn y DU.
  • Canolfan ymchwil y dyfroedd a newid yn yr hinsawdd a fydd yn hwb i ragoriaeth ac arloesedd byd-eang
  • Adeileddau cromen arnofiol, a fydd yn dod yn ganolfannau diwylliannol a gwyddonol i bawb eu mwynhau
  • Cartrefi preswyl ar y glannau i 5,000 o bobl
  • Tua 150 o eco-gartrefi hynod ynni effeithlon arnofiol, wedi'u hangori yn y dŵr

Caiff Eden Las ei lleoli ar hyd ardal helaeth o dir a dŵr, i'r de o Ddoc Tywysog Cymru yn ardal SA1 Abertawe.

Caiff holl adeiladau a chyfleusterau'r prosiect, gan gynnwys yr eco-gartrefi, eu lleoli ar hyd y morlyn, a byddant yn defnyddio ac yn gwella'r tir presennol yn yr ardal.

Bydd Eden Las yn creu dros 2,500 o swyddi parhaol ac yn cefnogi 16,000 o swyddi eraill ar draws Cymru a'r DU, wrth greu swyddi ychwanegol yn ystod y gwaith adeiladu.

Bydd yr ynni adnewyddadwy a gynhyrchir ar y safle yn pweru datblygiad Eden Las gyfan, gan gynnwys busnesau a datblygiad cymysg o dai fforddiadwy, ardaloedd byw â chymorth a fflatiau moethus. Oherwydd yr arloesedd ar y safle, bydd gan bob cartref hyd at 20 mlynedd o ynni adnewyddadwy a gwres, wedi'u cynnwys yng ngwerthiant yr eiddo.

Datblygwyd y prosiect yn dilyn trafodaethau'n seiliedig ar weledigaeth a gyflwynwyd gan dasglu rhanbarthol a arweinir gan Gyngor Abertawe.

Daw'r cyhoeddiad wrth i arweinwyr y byd baratoi i ddod ynghyd yn Glasgow yn ddiweddarach yr wythnos hon ar gyfer uwchgynhadledd COP26 i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Meddai Tony Miles, Cyd-sylfaenydd a Phrif Weithredwr DST Innovations, "Mae Eden Las yn gyfle i greu templed i'r byd ei ddilyn - defnyddio ynni adnewyddadwy a mwyafu'r defnydd o dechnolegau newydd, a meddwl am ddatblygu ardal i fyw a gweithio ynddi ond hefyd i ffynnu."

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rydym yn fwy ymwybodol nag erioed o'r blaen o'r angen i ddatblygu cyflenwadau ynni adnewyddadwy, i ddarparu trydan cynaliadwy a fforddiadwy i deuluoedd a busnesau.

"Bydd Eden Las yn sicrhau bod Abertawe a Chymru ar flaen y gad o ran arloesedd ynni adnewyddadwy byd-eang, gan helpu i greu miloedd o swyddi â chyflogau da, lleihau ein hôl troed carbon yn sylweddol, a gwella proffil Abertawe ar draws y byd fel lle i fuddsoddi ynddo.

"Rwy'n gyffrous iawn bod consortiwm rhyngwladol, a arweinir gan gwmni o Gymru, wedi datblygu'n gweledigaeth Ynys Ynni'r Ddraig yn brosiect arloesol sy'n darparu cynifer o fuddion, ac yn adeiladu ar uchelgais y cyngor i ddod yn ddinas Sero-Net erbyn 2050.

"Mae'r prosiect hwn wir yn newid pethau'n sylweddol i Abertawe, ei heconomi ac ynni adnewyddadwy yn y DU, a'r hyn sy'n hollbwysig yw y gellir ei gyflwyno heb yr angen am gymorthdaliadau'r Llywodraeth."

Meddai Julie James, Aelod o'r Senedd dros Orllewin Abertawe, "Mae mor gyffrous gweld y prosiect hwn yn Abertawe'n datblygu ar adeg mor bwysig i Gymru a'r byd. Bydd yn cyflwyno arloesedd ac ymchwil o'r radd flaenaf, miloedd o swyddi gwyrdd o safon, cartrefi carbon isel gwych a digonedd o ynni adnewyddadwy. Mae'n bleser gweld Abertawe a Chymru ar frig arloesedd byd-eang a datgarbaneiddio, fel y dylent fod.

"Bydd y prosiect yn cynnwys morlyn llanw, gyda thyrbinau tanddwr o'r radd flaenaf sy'n cynhyrchu 320 megawat o ynni adnewyddadwy. Mae gan Abertawe un o'r amrediadau llanwol mwyaf yn y byd, a bydd y cynllun hwn yn caniatáu i ni ddefnyddio'r ynni mae'n ei gynhyrchu i gefnogi'n planed ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, fel rhan o brosiect blaengar y gall pob un ohonom fod yn falch ohono.

"Bydd yr ynni adnewyddadwy a gynhyrchir ar y safle'n pweru'r datblygiad cyfan, gan gynnwys busnesau a datblygiad cymysg o dai fforddiadwy, ardaloedd byw â chymorth a fflatiau moethus."

Meddai'r Seneddwr Joe Manchin, Seneddwr ar gyfer Gorllewin Virginia a Chadeirydd Pwyllgor Ynni ac Adnoddau Naturiol y Senedd, "Mae'r gwaith arloesol sy'n cael ei wneud gan DST a Batri yng Nghymru a Gorllewin Virginia, UDA, yn esiampl wych o gydweithio byd-eang ar ei orau, sy'n cyflwyno atebion arloesol sy'n darparu cyfraniad sylweddol at ein brwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd ac at gynnal swyddi yn ein cymunedau."

Yn amodol ar ganiatâd cynllunio, gallai gwaith ar y safle ddechrau'n gynnar yn 2023.

 

Close Dewis iaith